Yn dilyn Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwyr ifanc yn Wrecsam sut a phryd y sylweddolont eu bod yn ofalwyr ifanc.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Trawsgrifiad
Gofalwr ifanc 1: Dwy flynedd yn ôl. Yr ysgol a soniodd eu bod nhw’n meddwl fy mod i’n ofalwr ifanc ac fe roddon nhw fi mewn cysylltiad â Leanne.
Daeth Leanne i’r ysgol i gael cyfarfod i gyflwyno pob dim, ac wedyn mi es i o’i gweld hi tua unwaith bob wythnos i’w gweld hi dair neu bedair gwaith yr wythnos, yn gwirfoddoli a rhoi help law cystal â medra i, a chwrdd â gofalwyr ifanc eraill.
Gofalwr ifanc 2: Dwi ddim yn cofio a dweud y gwir, ond mae’n rhaid ei bod hi tua deng mlynedd yn ôl. Pan fyddai’n troi’n ddeunaw, fe fydd hi wedi bod yn ddeng mlynedd.
Ond dwi’n cofio mynd i grwpiau am y tro cyntaf, heb wybod mod i’n ofalwr ifanc ac mai dyna pam oeddwn i’n mynd iddyn nhw.
Y cyfan oeddwn i’n ei weld oedd grŵp i gael hwyl bob wythnos, ond wrth imi fynd yn hŷn mi sylweddolais mod i’n ofalwr ifanc ac mi welais i’r gwahaniaeth rhwng y pethau roedd yn rhaid i mi eu gwneud a’r pethau roedd angen i bobl eraill eu gwneud.
Mae’n fater o aeddfedrwydd hefyd, dwi’n meddwl mod i wastad wedi teimlo ychydig yn fwy aeddfed na’r rhan fwyaf o bobl eraill o’r un oed â fi.