Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi cael adroddiadau newydd am bobl yn cael e-byst sy’n edrych yn swyddogol, gan honni eu bod gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Mae’r negeseuon e-bost yn dweud bod “rhai anghysondebau” wedi’u canfod, ac yn gofyn i bobl ddilyn dolen i ddiweddaru eu manylion.
Sgam ydi hyn!
Byddwch yn ymwybodol mai sgam yw hyn a pheidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni yn yr e-bost.
Mae’r e-bost sgâm yn nodi “Mae’n ofynnol i chi ddiweddaru’ch proffil i’w ffurf ddiweddaraf er mwyn osgoi terfynu eich trwydded foduro. Rhaid i chi ddefnyddio eich gwybodaeth ddilys a swyddogol i gwblhau’r ffurflen hon. Gall defnyddio unrhyw lysenwau neu gyfeiriadau byr arwain at y diweddariad hwn yn cael ei wrthod.”
Yna gofynnir i chi glicio ar ddolen, sy’n mynd â chi i ffurflen i nodi’ch gwybodaeth bersonol, a sefydlu neu adnewyddu eich gwybodaeth dalu. Peidiwch â chael eich perswadio i wneud hyn…maen nhw am gael eich gwybodaeth bersonol er mwyn eich twyllo.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
“Peidiwch â chael eich dal”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae e-byst sgam o’r math hwn yn dibynnu ar ddychryn pobl i wneud penderfyniadau gwael, brys. Mae angen trwydded yrru ar bobl am lawer o resymau, megis ymrwymiadau gwaith, a bwriad yr e-bost hwn yw achosi panig ac arwain rhywun i wneud penderfyniad drwg y byddan nhw’n ei ddifaru.
“Peidiwch â chael eich dal, a byddwch yn wyliadwrus iawn wrth gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol. Cymerwch yr amser rydych chi ei angen bob amser i ganfod a allai rhywbeth fod yn sgam. Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr, cysylltwch â’r brand neu’r cwmni yn uniongyrchol.”
Rhywfaint o gyngor
Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:
STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.
HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.
AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.
Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.
Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.
Os ydych wedi derbyn e-bost yr ydych yn teimlo’n ansicr yn ei gylch, gallwch ei anfon ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus trwy’r cyfeiriad e-bost report@phishing.gov.uk
Adrodd am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
YMGEISIWCH RŴAN