Trawsgrifiad o Gyfweliad Rosemarie a Pat
LG:
Helo bawb. Mae’n ail ddiwrnod Wythnos Weithredu Dementia ac mi gawsom ni ddechrau da i’r wythnos ddoe a dw i’n gwybod y bydd heddiw llawn cystal. Mae gennym ni ddwy westai arbennig heddiw. Dwbl trwbl a dwbl yr atebion gwych hefyd dw i’n siŵr. Yn ymuno â mi heddiw mae Rosemarie a Pat Williams sydd am sôn ychydig am eu hanes nhw gyda dementia. I’r rheiny ohonoch a fethodd y fideo ddoe, pwrpas y gyfres yma ydy gofyn i bump unigolyn gwahanol, neu chwech gyda’r merched hyfryd yma, yr un tri chwestiwn i ddangos, pan ydych chi’n cwrdd ag un person sy’n byw â dementia, eich bod ond yn cwrdd ag un person sy’n byw â dementia. Y ffordd yr ydw i’n gobeithio dangos hyn ydy trwy ddangos pa mor wahanol ydy atebion pawb yn ystod y cyfweliadau yma. Felly heb oedi mwy, diolch yn fawr i chi am ymuno â ni heddiw ferched. Y cwestiwn cyntaf ydy, soniwch wrthym ni ychydig amdanoch chi eich hunain. Sut ydych wedi dod i gysylltiad â dementia a beth yw eich stori?
RW:
Daeth y syniad o’r eglwys mewn gwirionedd. Eglwys Y Santes Anne ym Mharc Caia. Roedden nhw’n chwilio am rywun i gynrychioli llais pobl â dementia. Mae Pat wedi gweithio yn y gymuned erioed ac rydw i wedi gwneud tipyn yn y gymuned, felly penderfynodd y ddwy ohonom ni fynd draw i gyfarfod lle roedden nhw’n ceisio galluogi plwyfi i fod yn fwy cyfeillgar i ddementia. Roedd Pat yn meddwl ei bod yn mynd yno i wneud te a helpu pobl.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
PW:
Roeddwn i’n meddwl mai mynd i wirfoddoli i ddod yn ffrindiau gyda rhywun ag Alzheimer’s oeddwn i a mynd â nhw allan am goffi yn y prynhawn. Dyna beth oeddwn i’n ei feddwl. Ges i dipyn o sioc pan gyrhaeddon ni a chael gwybod bod yn rhaid i ni wneud prosiect.
RW:
Penderfynon ni y byddem yn gofyn i bobl eu hunain, felly fy wnaethom ni ofyn i bobl ym mhlwyf y Santes Anne beth oedden nhw’n feddwl fyddai’n help. Doedden ni ddim eisiau ei gyfyngu i’r eglwys yn unig, rydym am gynnwys y gymuned ehangach. Felly fe wnaethom ni wahodd grŵp arall o bobl draw i ddysgu mwy am beth oedd anghenion pobl. I bobl sy’n ofalwyr i bobl â dementia. I’r bobl eu hunain. Mi gawsom ni syniadau gwych yn cael eu cyflwyno ac un peth, fel y dywedodd Pat, yr oedd wir ei angen oedd canllaw syml. Mae llwyth o wybodaeth ar gael ond dydy o ddim wedi cael ei roi at ei gilydd, felly fe wnaethom ni gael grŵp o bobl at ei gilydd i ofyn iddyn nhw. Fe wnaethom ni ychydig o waith ymchwil am beth yr hoffai pobl ei weld mewn canllaw. Rhoddodd bobl yr atebion hynny i ni ac fe gawsom y syniad o’i alw yn “Atgofion” sy’n deitl addas iawn. Fe wnaethom ni gwrdd â phobl ddiddorol dros ben ar hyd y ffordd a roddodd wybodaeth i ni. Ar yr ugeinfed, mi fyddwn ni’n lansio “Atgofion”. Rydym ni’n creu canllaw lleol syml ac rwyt ti’n iawn Luke, rydym ni’n wedi sylweddoli nad ydy dementia yn diffinio pobl. Mae pobl yn unigolion ac mae profiadau pob unigolyn i gyd yn amrywiol ac yn wahanol. Trwy gynnwys pobl a chytuno nad yw dementia yn diffinio unrhyw un, mae rhywfaint o lawenydd i’w gael mewn bywyd. Y man cychwyn yw lansio pamffledyn “Atgofion” a fydd yn mynd i Wrecsam.
PW:
O a) Sut mae rhywun yn gwybod eu bod yn dioddef o ddementia? I gael mynediad at asesiad ac yna gwahanol wasanaethau a allai fod o gymorth i’r person â dementia. Hefyd, i’r gofalwyr. Yn arbennig y gofalwyr, oherwydd maen nhw dan bwysau anferthol wrth ofalu am rywun â dementia. Mae’n mynd â’u hamser ac mae’n waith gwirioneddol flinedig. Yn enwedig os nad ydyn nhw’n cael unrhyw ofal seibiant chwaith. Cafodd hynny ei grybwyll llawer yn y gwasanaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – gofal seibiant. Dydyn nhw ddim yn ei gael o. Mae angen gofal seibiant ar bobl, hyd yn oed os yw’n golygu mynd i ganolfan ddydd i roi amser i’r gofalwr fynd i siopa neu gael gwneud eu gwallt neu rywbeth. Hyd yn oed clwb cinio un diwrnod yr wythnos.
RW:
Sori Luke. Rydym yn edrych ar gael y canllaw yma, a fydd yn cael ei lansio ar yr ugeinfed. Yna ar ôl “Atgofion”, bydd prosiect camau nesaf lle rydym yn mynd i ofyn i bobl ddod ymlaen eto mewn ffordd sy’n sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, i gael pobl at ei gilydd i oresgyn ynysrwydd. I chwalu rhai o’r mythau tebyg i, wel, “’dydy pobl ddim yn eich ‘nabod chi pan ewch chi i’w gweld nhw”. Wel, mae pobl yn teimlo’n dda iawn ar ôl i chi ymweld â nhw fel y gwyddoch chi fel llysgennad. Rydym ni’n ceisio cael gwared ar rywfaint o’r stigma sydd o’i gwmpas. Mae llawer o stigma yn gysylltiedig â dementia ac iechyd meddwl. Ond trwy fod yn fwy agored amdano, trwy wrando ar beth mae pobl yn ei ddweud a fyddai’n eu helpu, gallwn ni ddatblygu cynllun o bethau i’w gwneud dros y deuddeng mis nesaf mewn gwirionedd.
LG:
Mae hynny’n wych. Mae’r prosiect yma yn arbennig. Soniodd fy nghydweithiwr, Delyth, wrthyf i ychydig am beth oeddech chi’ch dwy yn ei wneud, ac mae hwnnw’n rheswm arall pam yr ydw i mor falch bod y ddwy ohonoch wedi gallu ymuno â mi heddiw. Oherwydd i bobl fel chi, efallai y bydd y cwestiwn yma ychydig bach yn haws i chi. Yn amlwg, rydych chi’n rhan o hyn, ond fel Cefnogwr Cyfeillion Dementia, dw i’n mynd allan i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth. Dw i’n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd fel Wythnos Weithredu Dementia ac rydych chi o’ch dwy yn mynd allan gyda’r syniad gwych yma am bamffledyn. Gyda hyn i gyd yn digwydd, dw i’n meddwl y ca’ i ateb da gennych chi i’r cwestiwn yma, pa mor bwysig ydych chi’n teimlo ydy’r pethau fel y rhai yr ydym ni i gyd yn eu gwneud, ac sy’n digwydd yn y gymuned, pa mor hanfodol ydy bod pethau fel hyn yn digwydd?
RW:
Dw i’n meddwl ei fod o’n bwysig.
PW:
Mae’n rhaid iddo fod, oherwydd mae cymaint mwy o bobl yn dioddef o ddementia rŵan. Mae cynnydd yn y bobl sy’n dioddef o ddementia ac mae’n mynd i waethygu gan fod pobl yn byw yn hirach.
RW:
Mae’n digwydd i ni gyd. Does dim pwynt edrych dros ein hysgwydd a dweud “Hi drws nesaf, neu fo i lawr y ffordd”. Os meddyliwch chi am y peth, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, ac wrth edrych ar y ddemograffeg, mae’n digwydd i ni gyd. Rydym i gyd yn gynwysedig. Rydym i gyd yn ‘nabod rhywun, mae gennym i gyd ffrind neu berthynas sy’n cael ei effeithio gan ddementia, felly ein pwrpas ni mewn gwirionedd ydy cefnogi pobl i osgoi arwyddion o ddementia trwy fyw bywydau llesol. Rydym ni’n gobeithio y bydd ein prosiect, wyddoch chi, mae llawer o bethau’n digwydd, llawer o brosiectau eraill. Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y gallwn ei gynnig a, gobeithio, y bydd pobl eraill yn dewis cymryd rhan os liciwch chi. Rydym ni eisoes wedi cael cynnig gwirfoddolwyr i ddod draw i wneud pethau. Rydym ni’n gwybod fod cerddoriaeth yn codi ysbryd pobl. Efallai i chi weld y côr ar y teledu – y côr dementia. Roedd hwnnw’n wych.
LG:
Gyda Vicky McClure. Oedd, roedd o’n wych.
RW:
Pwy a ŵyr? Efallai y cawn ni gôr dementia yn Wrecsam, pam ddim?
LG:
Does dim rheswm dros beidio cael un.
RW:
Nac oes. Wyddoch chi, mae llawer o bobl â llawer o ddoniau i’w rhannu, gan gynnwys pobl â dementia. Mae gan bobl lawer o ddoniau ac mae cerddoriaeth yn un ohonyn nhw. Dim ond un ffordd yw hon, mae llawer o ffyrdd eraill i gyffwrdd â phobl felly rydym yn dysgu gyda’n gilydd. Mae llawer o bethau i ni gyd eu dysgu.
LG:
Yn bendant.
PW:
Cynlluniau rhwng cenedlaethau, siarad gyda phlant ysgol am eu profiadau o’r rhyfel neu siarad am eu profiadau bywyd a gall hen bobl wneud hynny’n dda. Hyd yn oed os ydyn nhw’n dioddef o ddementia, maen nhw’n dal i gofio pethau felly. Maen nhw’n trosglwyddo eu gwybodaeth ymlaen hefyd i bobl iau.
LG:
Yn bendant, ac mae hynny’n arwain at un o’r prif negeseuon – sef bod mwy i’r person na’r dementia. Yn union fel mae’r ddwy ohonoch chi newydd ei ddweud, efallai bod y bobl yma wedi brwydro mewn rhyfel. Mae ganddyn nhw stori i’w dweud y tu ôl i’r clefyd. Nid y clefyd sy’n gwneud yr unigolyn. Rydw i wedi siarad gydag un o’r gofalwyr yn y gymuned ac fe ddywedodd o’r un fath. Dydy pobl ddim yn siarad gyda’r person, maen nhw’n siarad gyda’r clefyd ac nid dyna ddylem ni ei wneud. Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i wneud pethau fel hyn ac yn ystod y sesiynau yma, rydym ni’n cael pobl i feddwl am y camau positif i’w cymryd wrth ddod ar draws rhywun sy’n byw gyda dementia i wneud eu bywydau ychydig yn haws. I’r bobl sy’n gwrando, beth fyddech chi’n ei awgrymu fel camau positif?
RW:
Gwrando, dw i’n meddwl. Fel y dywedais ti Luke, mae’n ymddangos nad ydy pobl yn gwrando ar beth sy’n mynd ymlaen felly dydyn nhw ddim yn rhyngweithio yn iawn, ac ambell waith mae’n nhw’n siarad at bobl yn hytrach na gwrando yn ofalus iawn. Fel y dywedaist ti, mae gan bawb stori i’w hadrodd ac mi allwn ni gysylltu â hanes y person hwnnw. Mi wnes i ymweld â rhywun yn ddiweddar oedd yn ffermwr, Ken, sydd wedi cael bywyd cyfoethog gyda’i fferm a’i deulu a’i gymuned ac mae ganddo fo lawer ar ôl i’w roi. Rydym ni’n meddwl am bobl o safbwynt corfforol a meddyliol, ond mae angen meddwl amdanyn nhw o safbwynt ysbrydol hefyd, y tic yna sydd y tu mewn i ni gyd ac fe oleuodd ei lygaid i fyny. Roedd yn wên i gyd pan oedd rhywun yn cysylltu gyda fo ar lefel ddynol. Gwrando, mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud. Mae am ddim. Dim ond amser ydy o.
PW:
Dw i’n meddwl hefyd bod angen i deuluoedd beidio dadlau gyda’r person â dementia. Dw i wedi bod i sawl tŷ ac mae’r person hŷn wedi dweud “Dw i eisiau mynd i’r fan a fan”, “O, na fedri di ddim mynd, dwyt ti ddim wedi bod yno ers blynyddoedd” yn hytrach na chytuno a dweud “O ie, beth am fynd yno nes ymlaen. Bwyta dy swper yn gyntaf ac mi awn ni yno wedyn”, oherwydd mi fyddan nhw wedi anghofio amdano wedyn. Peidiwch â dadlau gyda nhw, oherwydd mae hynny’n aflonyddu eu meddyliau nhw ac mae’n gwneud i chi fod yn aflonyddgar hefyd. Nid yw’n llesol i’r naill na’r llall ohonoch.
LG:
Na, mae’r ddau bwynt yna yn rhai pwysig a diolch am eu rhannu. Diolch i chi am eich amser heddiw. Mae wedi bod yn wych. Mae’n rhaid i mi gael dymuno pob lwc i chi gyda’r pamffledyn. Os oes angen gwirfoddolwr arnoch chi, rhowch waedd ac mi dorchaf fy llewys i helpu.
RW:
Mi wna i roi dy enw i lawr Luke.
LG:
Rho fy enw i lawr, mi fydda i’n siŵr o dorchi fy llewys. Mi fyddwn i wrth fy modd yn dod i’ch helpu chi. Foneddigion a boneddigesau, rydw i wedi cael dwy westai ardderchog heddiw fel yr ydych chi wedi clywed drosoch eich hunain, ac mae hyn yn helpu’r hyn yr ydym yn ei wneud yr wythnos yma. Diolch o galon i chi Rosemarie a Pat am eich amser heddiw a diolch i chi am wrando. Daliwch ati i wisgo’ch bathodyn Cyfeillion Dementia gyda balchder ac fe welwn ni chi y tro nesaf. Diolch yn fawr bawb. Diolch i chi’ch dwy.
RW:
Diolch. Cymerwch ofal, hwyl!
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH