Jubilee

Mae gan Lyfrgelloedd Wrecsam weithgareddau gwych i chi gymryd rhan ynddynt fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî.

Ar gyfer plant mae gennym gystadleuaeth Dylunio Coron, gyda gwobr ar gyfer pob oedran categori.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Rydyn ni’n gofyn i blant ddylunio coron sy’n cynnwys rhywbeth sy’n ymwneud â: bywyd y Frenhines neu, gydag arfbais neu symbolau brenhinol.

Y grwpiau oedran ar gyfer y gystadleuaeth hon yw:

  • 6 oed ac iau
  • 7-11
  • 12-16

I oedolion mae cystadleuaeth Taith Jiwbilî o amgylch ein llyfrgelloedd. Os llwyddwch i ddod o hyd i ddelweddau cudd y Jiwbilî ym mhob llyfrgell gallwch gymryd rhan yn y raffl i ennill taleb anrheg Amazon.

Yn olaf, a dim ond am hwyl, mae gêm Bingo Jiwbilî – casglwch eich ‘cerdyn’ o’ch llyfrgell leol a darllenwch lyfr yn ymwneud â phob categori. Ceir rhagor o fanylion yn eich llyfrgell leol. Y dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau yw 20 Mehefin 2022.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH