Mae profiad arloesol o siopa wedi agor yn Ninbych a Wrecsam gan roi cyfle i gynhyrchwyr bwyd a diod Gogledd Cymru arddangos eu cynnyrch.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Menter fanwerthu newydd yw Ffenestr Siop, wedi ei ddarparu gan Menter a Busnes, i gynnig ffenestr siop ehangach i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, a chyfle i gwsmeriaid gael mynediad hawdd at ddewis gwych o gynhyrchion, gyda phob un yn arddangos cod QR i hwyluso’r siopa.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn y cyfnod cyn y Nadolig yn 2020, mae’r prosiect hwn yn gweld cynnyrch lleol mewn dwy ffenestr siop ar Stryd Fawr Dinbych a Wrecsam, sy’n rhan o gynlluniau Caru Busnesau Lleol yn Ninbych a’r dathliadau Dinas Diwylliant yn Wrecsam.

 

Mae’r profiad siopa yn syml.

  1. Pwyntiwch eich ffôn clyfar at y cod QR o ddewis
  2. Cliciwch ar y cod QR
  3. Prynwch o wefan y cynhyrchwyr. Prynwch i chi’ch hun neu anfonwch anrhegion at anwyliaid.

 

Dywedodd Charlotte Holliday, Rheolwr Datblygu Sector Bwyd Cywain “Mae’r ymateb gan gynhyrchwyr wedi bod yn wych. Bydd ugain o gynhyrchwyr yr ardal yn arddangos eu cynnyrch ac yn cael y cyfle i werthu i gwsmeriaid yn y modd arloesol hwn. Mae’r cynnyrch yn amrywio o siocled i seidir, ac o gaws i gacennau – rhywbeth at ddant pawb”

Meddai Rolant Tomos, Arweinydd Tîm Arloesedd a Mynediad i Farchnadoedd Newydd Cywain “Mae’n braf iawn gweld y ddau siop yn agor yn Ninbych a Wrecsam. Mae’n gyfle i drigolion lleol gefnogi cynhyrchwyr lleol.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos cynnyrch lleol fel rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol Cyngor Sir Ddinbych, sy’n annog siopwyr i gefnogi ein busnesau lleol.

“Mae ein masnachwyr yn darparu ystod eang o fwyd a diod o safon a gyda’r Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i Sir Ddinbych, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gyrraedd y rhai sy’n ymweld â Dinbych a’r sir gyfan.”

Dywedodd Rheolwr Canol Tref Wrecsam, Rachel Cupit: “Rydym yn gyson yn chwilio am syniadau newydd ac arloesol i wella ein cynnig stryd fawr a phrofiad ymwelwyr. Mae cyfuno technoleg ddigidol a siopa wyneb yn wyneb mewn ffordd greadigol yn codi proffil cynhyrchwyr lleol, yn ogystal â chynyddu nifer yr ymwelwyr â’n hardaloedd siopa.”

Mae’r prosiect peilot wedi bod yn bosibl diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfle i chi ymweld â’r ffenest siop yn Wrecsam hyd Ionawr 2023, gyda’r prosiect yn Ninbych yn weithredol tan fis Gorffennaf.

 

 

<em><a href=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″> Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.</a></em>

 

TANYSGRIFWYCH