Dewch draw!! Dewch draw!! Dewch i weld Gwych a Gwallgof, arddangosfa deithiol o ryfeddodau natur gan amgueddfeydd Cymru a fydd yn galw heibio Amgueddfa Wrecsam!
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys trysorau prin o bedwar ban byd. Galwch heibio’r amgueddfa a bydd digon o gyfle i chi:
- Ryfeddu at y bolgodog antopod prin, yr hwyatbig chwaden
- Rhyfeddu at weddillion sych y pysgodyn ballasg gwenwynig, a ganfyddir yn nŵr trofannol Affrica, Asia ac America
- Cyfarfod bele’r coed prin wrth iddo ffyrnigo ei adar ysglyfaethus yng nghoedwigoedd pinwydden y Calyddon
- a myfyrio am farwolaeth wrth edrych ar y gath wedi sychu a’r gwningen wedi’i rhannol ddatgymalu.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys holl ddirgelion a ffenomenau’r byd naturiol, gan gynnwys esgyrnynnau, besoarau, esgyrn morfil, chihuahua sydd wedi teithio pellteroedd maith a phig llifbysgodyn.
Gall yr ymwelwyr hynny sy’n ffafrio’r elfen artistig fwynhau lluniau Charles Tunnicliffe, un o artistiaid hanes naturiol enwocaf Prydain. Bu i’w waith ymddangos yn llawer o ganllawiau i’r fflora a ffawna yn yr ugeinfed ganrif a heb anghofio’r Llyfrau Ladybird enwog.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Arddangosfa Gwyllt a Gwallgof yw ffrwyth cydweithrediad rhwng 19 o arddangosfeydd ar draws Gymru, gan gynnwys ein hamgueddfa ni yma yn Wrecsam. Ychydig iawn o amgueddfeydd yng Nghymru sydd â chasgliadau o hanes naturiol, ond eto wrth ddod ynghyd, maent wedi llwyddo i greu sioe a fydd yn hygyrch i ymwelwyr o bob oedran ac o bob cwr o’r wlad.
“Hoffwn ddiolch i Oriel Môn a Chyngor Sir Ynys Môn am fenthyca’r lluniau ychwanegol gan Charles Tunnicliffe. Fe hoffwn hefyd gydnabod y gefnogaeth gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog a Chyngor Sir Powys, am gael benthyg Rigi, sef Chihuahua’r gantores opera enwog Adelina Patti.”
Bydd arddangosfa Gwyllt a Gwallgof i’w gweld yn Amgueddfa Wrecsam tan 6 Ebrill.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT