Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > “Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel”
ArallPobl a lleY cyngor

“Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel”

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 2, 2020 2:11 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
“Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel”
RHANNU

Mae ymgyrch yn lansio heddiw ar draws Cymru i annog pobl i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn bryderus bod aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wedi gweld lleihad mewn atgyfeiriadau i’w gwasanaethau ers y cyfyngiadau. Mae camdriniaeth, esgeulustod a niwed yn dal i ddigwydd ond mae’r cyfleoedd i adnabod yr arwyddion wedi lleihau oherwydd bod mynediad cyfyngedig i leoliadau gofal plant, ysgolion a sefyllfaoedd cymdeithasol.

Yn awr, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gofalu am ein gilydd ac yn annog pobl i gysylltu â’u gwasanaethau cymdeithasol lleol neu ffonio 101 os ydynt yn poeni bod rhywun mewn perygl.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant, “Mae’r gwasanaethau cymdeithasol ar agor ac yn barod i helpu os yw pobl yn bryderus bod angen cymorth ar aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog. Rwy’n annog unrhyw un sy’n poeni i ffonio’r gwasanaethau cymdeithasol. Gall fod yn benderfyniad anodd ond yn un a all helpu i arbed rhywun rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed. Gallwch hefyd ffonio 101 neu, os yw’n argyfwng, ffoniwch 999.”

Dywedodd y Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Er ein bod ni wedi cadw mewn cysylltiad â’r bobl a oedd eisoes yn hysbys inni cyn y cyfyngiadau, mae risg bod camdriniaeth, esgeulustod neu niwed yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac o bosib yn gwaethygu yn ystod y pandemig. Yn ystod yr amser anodd hwn mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ofalu am ein gilydd – gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel.”

Ewch i’r wefan Iach a Diogel https://llyw.cymru/iach-a-diogel/cadw-pobl-yn-ddiogel i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol lleol a sut i fynegi pryder. Os yw eich galwad yn un brys ffoniwch 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Gyda’n gilydd gallwn gadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Light It Blue #LightItBlue
Erthygl nesaf Open for Business Wrecsam ar agor am fusnes gyda phwyslais ar eich diogelwch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English