Mae Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam yn ddigwyddiad cyfnewid dillad misol a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr yn Lle Hapus, Dôl yr Eryrod.
Oes gennych chi ddillad yn eich cwpwrdd dillad nad ydych chi’n eu gwisgo neu nad ydynt yn eich ffitio mwyach? Gallwch ddod â nhw gyda chi a’u cyfnewid am rywbeth gwahanol!
Dyma sut mae’n gweithio:
- Mae mynediad yn £3
- Dewch â hyd at 15 dilledyn gyda chi (gallwch ddod â dillad merched neu ddillad dynion, esgidiau neu ategolion)
- Bydd ansawdd eich dillad yn cael ei wirio gan y gwirfoddolwyr wrth i chi gyrraedd (ni fydd eitemau sydd wedi’u staenio/difrodi yn cael eu derbyn)
- Byddwch yn cael cerdyn aelodaeth sy’n nodi faint o ‘gredyd’ sydd gennych (un eitem = un credyd)
- Wedyn gallwch bori drwy’r rheiliau, os ydych yn dod ar draws unrhyw eitemau yr ydych yn eu hoffi, gallwch fynd â nhw at y man talu a bydd eich cerdyn yn cael ei ddiweddaru
- Bydd unrhyw gredyd sydd gennych yn weddill yn cario drosodd i’r gyfnewidfa nesaf
Mae’r ffi mynediad yn berthnasol ar gyfer pob cyfnewidfa fisol, ond unwaith yr ydych chi wedi talu ar y diwrnod gallwch fynd yn ôl unrhyw dro yn ystod oriau agor i weld eitemau newydd y mae cyfnewidwyr eraill wedi dod i mewn.
Dywedodd Sharon Rogers, y prif drefnydd: “Gallwch ddisgwyl cael eich syfrdanu. Mae ein cyfnewidwyr wrth eu bodd yn dod i’n digwyddiadau gan nad ydych byth yn gwybod beth fyddwch chi’n ei ddarganfod ar y rheiliau – rydym yn gweld eitemau dylunydd, y stryd fawr a rhai sydd wedi’u gwneud â llaw yn dod i mewn”.
Beth yw’r buddion amgylcheddol?
Mae pob dilledyn newydd yn defnyddio ynni (e.e. defnyddio ffynonellau carbon i bweru peirianwaith) ac adnoddau i’w greu.
Oeddech chi’n gwybod fod yna effeithiau sy’n ymwneud â’r mathau o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd hefyd? Ni fydd dillad sydd wedi’u creu o ffibrau plastig, fel polyester, yn pydru os ydynt yn cael eu taflu i ffwrdd. Mae hyd yn oed cotwm, sy’n ffibr naturiol, fel arfer yn defnyddio llawer o ddŵr i’w gynhyrchu.
Felly, po fwyaf o bobl sy’n osgoi prynu eitemau newydd pan fyddant eisiau trawsnewid eu cwpwrdd dillad, y lleiaf yw’r effaith ar yr amgylchedd.
Ac, fel bob amser, mae prynu wyneb yn wyneb yn golygu y gallwch chi wirio os yw’r eitem yn ffitio/gweddu cyn ei brynu hefyd – gan osgoi’r allyriadau sy’n ymwneud â danfon a dychwelyd eitemau wrth siopa ar-lein.
Beth yw’r manteision o ran arbed costau?
Gall y gyfnewidfa ddillad hefyd eich helpu i arbed arian – rhywbeth yr ydym i gyd yn awyddus i’w wneud yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
Felly, yn lle gwario llwyth ar uwchraddio eich cwpwrdd dillad newydd, gallwch gyfnewid yr eitemau hynny nad ydych chi eu hangen mwyach am rywbeth sy’n newydd i chi. A chofiwch, gallwch ddod â hyd at 15 eitem gyda chi bob tro!
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Gweithgor Costau Byw: “mae’r gyfnewidfa ddillad yn fenter wych i arbed arian gyda buddion amgylcheddol”.
Yr eitemau dillad mwyaf cynaliadwy i’w cael yw’r rhai sydd eisoes yn eich cwpwrdd dillad yr ydych chi’n eu gwisgo dro ar ôl tro. Ond, os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar steil newydd, neu gael eitem ar gyfer digwyddiad/achlysur yr ydych chi’n annhebygol o’i wisgo eto, yna mae prynu dillad ail-law yn ddewis gwych.
Pryd mae’r digwyddiad nesaf?
Cynhelir y gyfnewidfa ddillad nesaf ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023 rhwng 11am a 2.30pm yn Lle Hapus (wrth ymyl y cae chwarae ar Ddôl yr Eryrod).
Gallwch hefyd fynd ar dudalen Facebook Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam am y wybodaeth ddiweddaraf, yn cynnwys dyddiadau ar gyfer y dyfodol.
Cofiwch ein bod yn Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen ac yn cynnal Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd yng nghanol y ddinas ar 18 Tachwedd, felly pam na wnewch chi wneud diwrnod ohoni a mynd i bob un o’r digwyddiadau hyn?
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.