Mae ‘na bethau rhyfedd iawn yn digwydd ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr yn ystod hanner tymor! Ewch i nôl eich ysgubell, gwisgwch eich masg a’ch dillad mwyaf dychrynllyd a dewch draw i’r parc ar gyfer llwybr y Glitzy Witch a chrefftau arswyd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys; wynebau’r goedwig, hwpla calan gaeaf, creu llusernau bach, hud a lledrith a thowcio afalau. Dydd Iau 31 Hydref, 1.30pm tan 3.30pm. Pob oedran. Prisiau amrywiol.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Beth am dderbyn hyfforddiant BMX proffesiynol ym Mharc y Ponciau? Hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio’ch beic fel beiciwr BMX proffesiynol? Os felly, ymunwch â’r hyfforddwr proffesiynol ym Mharc y Ponciau ddydd Llun, 28 Hydref o 10am tan 3pm. Mae’r hyfforddiant yn addas i blant 7 i 16 oed ac yn costio £7.50 y plentyn.
I archebu lle ffoniwch 01978 820780 neu anfonwch neges at countryparks@wrexham.gov.uk.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD