Yn ystod hanner tymor, bydd Ceidwaid ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr yn dangos i chi sut i droi poteli plastig yn dŷ gwydr bach. Yna cewch eu haddurno a phlannu hadau blodau gwyllt cynhenid ynddynt yn barod ar gyfer y gwanwyn.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Mae plannu blodau gwyllt yn y tai gwydr yn berffaith er mwyn helpu pryfetach sy’n peillio, fel ein gwenyn bach prysur, i ffynnu. Ar ôl i’r hadau ddechrau tyfu, gallwch eu plannu allan yn eich gardd. Cofiwch eu dyfrio!
Mae’r digwyddiad ar agor i blant o bob oedran ac oedolion hefyd.
Mae’n costio £2.60 am bob tŷ gwydr a bydd y sesiwn ymlaen o 1.30pm tan 3.30pm ddydd Mercher 27 Chwefror.
Mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir dros wyliau hanner tymor
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU