Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?
Y cyngorArall

Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2024 9:04 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Caffi Cyfle
RHANNU

Ydych chi’n gwybod bod caffi gwych yn yr Hwb Lles ar Stryt Caer yn Wrecsam?

Caiff Caffi Cyfle ei redeg gan Groundwork North Wales ac mae’n darparu amrywiaeth o ddanteithion iach a melys ar gyfer coffi’r bore, cinio cyflym neu frecinio hamddenol, er mwyn codi gwên i’ch wyneb.

Ac os bydd plant gyda chi, mae ardal chwarae meddal wych fydd wrth eu boddau nhw.

Caffi Cyfle

Dyma’r oriau agor

  • Dydd Llun i Ddydd Iau: 10:00 am – 3:00 pm
  •  Dydd Gwener: 10:00 am – 2:00 pm

Mae’r caffi wedi ennill sgôr hylendid bwyd “5” gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd – y lefel uchaf bosibl.

Caffi Cyfle “mae’r awyrgylch yn gymdeithasol iawn”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae Caffi Cyfle yn rhywbeth i’w groesawu i’r cyfleusterau a gynigir yng nghanol y dref ac mae’r staff yn mynd allan o’u ffordd i ddarparu danteithion iach a melys i bawb eu mwynhau.

“Mae’r awyrgylch yn gymdeithasol iawn a gallwch fod yn ffyddiog y bydd eich plant yn cael amser gwych yn yr ardal chwarae.

“Felly beth am alw heibio y tro nesaf fyddwch chi yn y dref, a dysgu beth yw’r Hwb Lles a sut mae’n helpu pobl o bob oed i ganfod y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.”

Beth yw’r Hwb Lles?

Mae’r Hwb Lles wedi ei greu drwy bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Caiff gwasanaethau/sesiynau eu rhedeg gan dimau gofal cymdeithasol, yn ogystal â darparwyr iechyd, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector (gan gynnwys elusennau a grwpiau nid-er-elw). 

Yma maent yn gallu darparu eu gwasanaethau mewn amgylchedd diogel er mwyn:

  • gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth
  • darparu datrysiadau ataliol ac amgen i ofal a chefnogaeth (gan ymdrin ag iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles)

Ers iddo agor yn 2022, mae pobl o bob oed o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi ymweld â’r Hwb Lles, sy’n canolbwyntio ar iechyd corfforol, yn ogystal ag iechyd meddwl a lles, mewn amgylchedd diogel.

Mae mannau newid clytiau, cyfleusterau toiled a mynediad at gynnyrch mislif am ddim hefyd, felly gallwch helpu eich hunain i’r hyn sydd ei angen arnoch.

Gallwch ddarllen mwy am yr Hwb Lles yma

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tŷ Pawb i gynnal arddangosfa deithiol arloesol

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Grove House Mae Grove House wedi darparu cefnogaeth ddigartref hanfodol i dros 240 o breswylwyr.
Erthygl nesaf Freedom Leisure Freedom Leisure wedi’i Ddewis yn Rownd Derfynol Dau Gategori Gwobrau Nofio Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English