Yn dilyn ein herthygl yn gynharach yn yr wythnos, dyma fwy o enghreifftiau o rôl bwysig y mae therapyddion galwedigaethol yn ei chwarae yn Wrecsam i fynd i’r afael â thegwch iechyd.
Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol 2021 yn cael ei gynnal rhwng 1 – 7 Tachwedd, a gallwch ddilyn #ThGDrosDegwch i weld mwy o’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud.
Enghraifft 3
Beth oedd yr her?
“Derbyniwyd atgyfeiriad gan Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer cefnogaeth Cronfa Gofal Integredig ar gyfer dinesydd oedd wedi cael torri ei goes dde i ffwrdd ac a oedd yn ddibynnol ar gadair olwyn. Yr hyn oedd yn bwysig i’r cleient oedd gallu dychwelyd adref i’w fwthyn cyn gynted â phosibl i wella adref. Roedd angen asesiad amgylcheddol er mwyn gallu ei ryddhau o’r ysbyty yn ddiogel. Her arall oedd y sefyllfa gyda Covid-19; cynhaliwyd pob asesiad risg a dilynwyd y polisïau.
Beth wnaethoch chi ei newid?
“Rhoddwyd blaenoriaeth i’r achos ac roedd modd i Therapydd Galwedigaethol weithredu ar unwaith. Cynhaliwyd yr ymweliad amgylcheddol y bore wedyn. Roedd modd i Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig roi’r newyddion diweddaraf i adran Therapi Galwedigaethol Glan Clwyd yn syth ar ôl yr ymweliad, a chafodd y dinesydd ei rhyddhau adref yr un diwrnod.
“Roedd modd i Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig gynnal galwad ffôn dilynol gyda’r cleient er mwyn sicrhau nad oedd yna bryderon brys, ac fe ymwelwyd ag o er mwyn asesu’r cleient yn ei gartref ei hun a rhoddwyd ymyraethau pellach ar waith.”
Pa effaith gawsoch chi?
“Yn sgil yr ymateb cyflym cafodd canlyniadau’r dinesydd eu cyflawni. Cafodd hyn effaith fawr ar ei les yn gyffredinol. Roedd ymyrraeth Cronfa Gofal Integredig yn golygu bod modd rhyddhau gwely yn Ysbyty Glan Clwyd – heb hyn, mae’n anorfod y byddai oedi wedi bod wrth ei ryddhau.
“Roedd yr atgyfeiriad at Gronfa Gofal Integredig yn golygu bod Therapydd Galwedigaethol wedi goruchwylio’r broses o’i ryddhau o’r ysbyty, gan allu gweld y cleient yn gyflym yn ei gartref ei hun a chafodd addasiadau ac offer pellach eu hadolygu yn y gymuned mewn modd amserol. Mae’r cleient bellach yn ymdopi’n dda yn ei gartref ei hun gyda’r holl ymyraethau ac nid oes pecyn gofal ar waith.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Enghraifft 4
Beth oedd yr her?
“Cafodd dynes yng nghanol ei 50au ei hanfon adref o’r ysbyty gan ei bod yn dod at ddiwedd ei hoes yn dilyn strôc drychinebus. Roedd hosbis yn y cartref yn rhan o’r tîm. Tra’i bod gartref, fe ddechreuodd fagu rhywfaint o gryfder eto – nid oedd hi’n gallu siarad ar ôl ei strôc, ond roedd modd iddi ddweud wrth ei theulu mai’r hyn oedd yn bwysig oedd gallu eistedd yn y gadair i wylio’r teledu.
“Roedd y teulu’n ei chodi gerfydd ei hysgwyddau a’i thraed i ddechrau mewn i gadair anaddas. Gofynnwyd i Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig adolygu’r offer a rhoi arferion diogel ar waith.”
Beth wnaethoch chi ei newid?
“Gweithiodd Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig gyda’r Ffisiotherapydd Niwrolegol Cymunedol er mwyn sefydlu gallu gweithredol a phosibilrwydd y dinesydd i ddatblygu. Gosododd Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig gyfarpar codi a symud, teclyn codi symudol i ddechrau ac yna trac ffrâm ‘H’ ar y nenfwd. Dywedodd y dinesydd mai dim ond ei theulu oedd hi eisiau i’w chodi, felly rhoddwyd hyfforddiant i’r teulu allu defnyddio’r teclyn yn ddiogel a chafodd y gofal ei ganslo.
“Cafodd y Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig gyllid o gronfa Live at Home ar gyfer cadair freichiau unigryw roedd modd ei symud gyda chefnogaeth lawn oedd yn gallu lliniaru’r pwysau, yn newis liw y dinesydd.”
Pa effaith gawsoch chi?
“Cafodd cyfraniad Therapydd Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig effaith gadarnhaol ar les cyffredinol y dinesydd a chafodd yr hyn oedd bwysig iddi ei gyflawni, mae hi bellach yn gallu gwylio’r teledu o’i chadair freichiau ac yn gallu cymryd mwy o ran yng ngweithgareddau’r teulu. Mae’r teulu yn gallu symud y wraig heb ofni ei brifo hi na nhw.
“Mae’r dinesydd a’i theulu yn ymdopi’n dda adref gyda’r holl ymyraethau Therapi Galwedigaethol Cronfa Gofal Integredig a roddwyd ar waith. Ni wnaf anghofio’r pleser pur pan gafodd y dinesydd ei chodi mewn i’w chadair unigryw am y tro cyntaf – dyna oedd boddhad swydd.”
Sut i gael gafael ar wasanaeth Therapydd Galwedigaethol
Gellir cael gafael ar wasanaeth Therapi Galwedigaethol drwy’r un pwynt mynediad i oedolion, neu drwy’r Panel Aml Asiantaeth ar gyfer plant sydd ag anableddau.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL