Mae Siop Goffi Heaven ar Stryt yr Arglwydd wedi dod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr i Wrecsam ers i Adam a Malgorzata gymryd y siop yn 2018.
Symudodd Adam a Malgorzata i’r DU yn 2004 a dechrau eu bywyd newydd gyda’i gilydd.
I ddechrau, roedd Malgorzata yn gweithio yn yr hen Gaffi Stryt yr Arglwydd ac roedd yn mwynhau treulio amser gyda chwsmeriaid a sgwrsio gyda nhw nes penderfynodd y ddau gymryd y siop ac agor y drysau fel Siop Goffi Heaven.
Ers agor, maen nhw wedi ehangu’r gwasanaethau gyda brecwast poeth, cinio a phwdinau ac yn 2021, cymerodd y ddau’r brydles i’r siop drws nesaf hefyd i roi mwy o le yn Heaven.
Mae Coffi Heaven yn hynod o boblogaidd gyda’r chwsmeriaid,
Mae Coffi Heaven yn hynod o boblogaidd gyda’r gymuned, gyda chwsmeriaid rheolaidd ac mae wedi dod yn fan aros i lawer sy’n ymweld â chanol y dref.
Yn ddiweddar, bu’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio yn ymweld â’r caffi a chafodd ei blesio’n fawr â’r hyn a welodd ac a glywodd. Dywedodd, “Roedd Adam a Malgorzata eisiau creu teimlad cartrefol, cyfeillgar fel bod pobl yn teimlo’n gyfforddus.
“Maen nhw wedi ychwanegu cornel i’r plant hyd yn oed, sydd wedi bod yn boblogaidd â rhieni, ac mae’r teimlad cartrefol hwn yn llifo allan drwy’r drws ac i’r stryd, i’r cadeiriau y tu allan.
“Mae Adam a Malgorzata yn glod i’n cymuned ac yn helpu i ddangos Wrecsam i’n llu o ymwelwyr lleol, rhanbarthol a thramor.
“Gyda staff cyfeillgar a chefnogol yn gefn iddynt, maen nhw wedi llwyddo i gadw at eu prif nod cychwynnol, sef cyfarch pob cwsmer â gwên a’u trin fel teulu.”
“Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld eto’n fuan ac yn dymuno’n dda iddynt i’r dyfodol.”
Efallai yr hoffech ddarllen Busnes arbennig o dda
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch