Erthyl Gwadd: CThEM
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa miloedd o rieni a theuluoedd yng Nghymru i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol a all helpu i dalu am ofal plant yn ystod gwyliau’r haf.
Trwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gall teuluoedd gael hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn – neu £4,000 os yw eu plentyn yn anabl – i’w roi tuag at gost gofal plant. Mae ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Gall yr arian helpu tuag at gost clybiau gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, a chynlluniau gofal plant eraill sydd wedi’u cymeradwyo.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd y llywodraeth yn talu 20% o gostau gofal plant drwy ychwanegu at yr arian a delir i mewn i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Mae hyn yn golygu am bob £8 a delir i mewn i’r cyfrif ar-lein, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y llywodraeth.
Ym mis Mawrth 2022 defnyddiodd mwy na 13,575 o deuluoedd yng Nghymru y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth – y nifer uchaf o deuluoedd a gofnodwyd yn defnyddio’r cynllun ers ei lansio ym mis Ebrill 2017 – ond mae’n bosibl bod miloedd mwy yn colli allan. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan CThEM yn amcangyfrif y gallai tua 1.3 miliwn o deuluoedd fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn gan y llywodraeth.
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i ddysgu rhagor am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.
Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, gan helpu gyda’r biliau ar gyfer pethau fel clybiau gwyliau, meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’n hawdd cofrestru – chwiliwch am ‘Tax-free Childcare’ ar GOV.UK.”
Dywedodd Helen Whately, Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys, Trysorlys EM. “Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn helpu teuluoedd gyda chost biliau gofal plant ond rydym yn gwybod y gallai miloedd o rieni fod yn colli allan.
“Dyna pam rwy’n annog teuluoedd i gofrestru nawr ac arbed costau gofal plant.
“Mae yna lawer o glybiau gwyliau a darparwyr gofal plant gwych i helpu rhieni sy’n gweithio yn ystod gwyliau’r haf sydd i ddod, felly nawr yw’r amser i fanteisio ar y cymorth hwn.”
I filoedd o deuluoedd sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’r arian y maent yn ei arbed bob mis ar eu costau gofal plant yn arian sy’n mynd yn syth yn ôl i’w pocedi. Gellir agor cyfrifon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a gellir eu defnyddio ar unwaith. Mae modd rhoi arian ynddo ar unrhyw adeg a’i ddefnyddio yn ôl yr angen. Gellir codi unrhyw arian sydd wedi’i dalu i mewn ac sydd heb ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg.
Mae Caroline o Portsmouth yn defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu i dalu am glybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau ei phlant. Yma mae hi’n esbonio pam ei bod yn ei ddefnyddio. Dywedodd Caroline:
“Rwy’n fam sy’n gweithio, rwy’n brysur ac mae gen i ddau o blant. I mi, mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn hawdd ac yn ddidrafferth i’w ddefnyddio. Rwy’n mynd ar y system bob mis ac yn gosod y swm sydd ei angen arnaf er mwyn talu’r darparwr gofal plant. Mae’r cymorth ariannol yn bendant yn helpu ond rydw i hefyd yn hoffi’r hyblygrwydd a sut mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn fy helpu i gyllidebu ar gyfer fy nghostau gofal plant.”
Gyda gwyliau haf yr ysgol yn agosáu, mae’n bwysicach nag erioed bod rhieni a gofalwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth ariannol y maent yn gymwys i’w gael. Mae’n gallu lleihau eu costau, eu helpu i aros mewn gwaith, neu eu helpu i weithio mwy o oriau.
Mae gan fwy na miliwn o deuluoedd yn y DU hawl i ryw fath o gymorth gofal plant gan y llywodraeth ac mae’r llywodraeth yn annog y rhai sy’n gymwys i beidio â cholli allan ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Gall teuluoedd gael gwybod am ba cymorth gyda gofal plant sydd orau iddynt drwy’r wefan Dewisiadau Gofal Plant.
Er mwyn sicrhau bod rhieni’n cael y cymorth gofal plant y mae ganddynt hawl iddo, mae’r llywodraeth yn lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth yr wythnos hon.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH