Darllen yw un o’r pethau pwysicaf y bydd eich plentyn yn ei ddysgu yn yr ysgol.
Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw gwneud amser i ddarllen gyda’ch plentyn bob dydd, os yw’n lyfr sydd wedi cael ei anfon gartref o’r ysgol, ei fenthyg o’r llyfrgell, neu o’ch silffoedd llyfrau eich hun.
Mae gan Llyfrgell Brynteg ddetholiad newydd o lyfrau yn y cynllun darllen i helpu wrth gefnogi addysg eich plentyn. Mae cynllun darllen yn gyfres o lyfrau sydd wedi’u hysgrifennu’n ofalus i gefnogi’r broses o ddysgu a darllen, ac i helpu plant ddatblygu fel darllenwyr.
Mae ein detholiad o lyfrau yn y cynllun darllen yn cynnwys Oxford Readers Reading Champions, DK Readers, Bloomsbury Young Readers, a Ladybird Readers a llawer iawn mwy, felly rydych yn siŵr o ganfod rhywbeth at eich dant chi a’ch plentyn.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN