Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) yn gofyn i chi eu helpu i gynllunio hwb i’r economi.
Ar hyn o bryd, mae arolwg ar-lein sy’n canolbwyntio ar effaith pandemig Covid-19 a sut mae wedi effeithio ar fusnes a diwydiant yn y rhanbarth. Mae NWEAB eisiau defnyddio’r canlyniadau i gael darlun llawn o’r sefyllfa ac i’w helpu i gynllunio ffyrdd i danio a chefnogi adfywiad unwaith y bydd cyfyngiadau cloi yn cael eu codi.
Bydd y canlyniadau hefyd yn bwydo i’r Weledigaeth Twf tymor hir a’r strategaeth tymor hir i wella seilwaith, creu swyddi, a chynhyrchu buddsoddiad pan fydd ei angen fwyaf ar gwmnïau.
Mae Cyfarwyddwr Rhaglenni Bargen Twf Gogledd Cymru, Alwen Williams, yn annog pobl ym mhob sector i gymryd yr arolwg a gwneud gwahaniaeth i’r busnesau hynny y mae’r Coronafeirws yn effeithio arnynt, a chenedlaethau’r dyfodol.
Bydd cynrychiolwyr sy’n gweithio ar ran yr awdurdodau lleol hefyd yn codi’r ffôn ar berchnogion a rheolwyr i gael eu hymatebion a’u defnyddio i lunio cynigion a blaenoriaethau.
Meddai Alwen: “Bydd y dystiolaeth a gesglir yn greiddiol wrth ein helpu i ddeall yn llawn y materion mwyaf dybryd sy’n wynebu pob sector yng Ngogledd Cymru, a’r ffyrdd gorau o symud ymlaen.
“Yna byddwn yn gwybod ble rydyn ni, beth yw’r meysydd blaenoriaeth, beth sydd angen ei wneud, a sut gallwn ni helpu’r cwmnïau hyn i lywio eu ffordd trwy hyn.
“Mae yna lawer o heriau a’r cyntaf y mae angen i ni ei oresgyn yw darganfod yn union beth sydd yn ein herbyn, pa feysydd sydd angen cymorth ar frys – er enghraifft, lletygarwch a thwristiaeth – a’r hyn y gellir ei gyflawni’n realistig yn y tymor byr i gynhyrchu optimistiaeth o’r newydd.”
Bydd y Swyddfa Raglenni yn ceisio darganfod yr effaith ar draws gwahanol siroedd a sectorau, maint busnesau a chyda pha rym y cawsant eu taro gan argyfwng Covid-19.
Bydd yna enghreifftiau hefyd o arfer gorau a chanlyniadau cadarnhaol gan fod rhai cwmnïau wedi gallu addasu i’r sefyllfa a defnyddio eu peiriannau a’u technoleg i weithgynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol, hylif diheintio dwylo neu gynhyrchion meddygol.
Fodd bynnag, mae’r darlun wedi bod yn llwm i raddau helaeth, gyda chwmnïau yn dod ar draws ystod eang o broblemau, sef colli refeniw a staff, llai o gynhyrchiant a gwerthiant, tarfu ar iechyd a lles gweithwyr a chau dros dro.
Ychwanegodd Alwen: “Nid ymarfer ticio blychau yw hwn, bydd yr wybodaeth a’r mewnwelediad gan fusnesau yn ffurfio’r ddealltwriaeth sydd gennym ac yn helpu i siapio’r ffordd ymlaen. Byddem yn croesawu’r cyfle i gynnal sianeli cyfathrebu â’r rhai a arolygwyd fel y gallwn weld a oes cynnydd yn cael ei wneud, ac os nad oes, sut y gallwn adeiladu momentwm.
“Rydym yn annog pobl i gymryd rhan, dweud eich dweud a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl fel bod gennym adroddiad manwl ar yr hyn sy’n digwydd nesaf. Bydd pawb sy’n ateb y cwestiynau wedi chwarae eu rhan wrth helpu i gael y rhanbarth yn ôl ar ei draed.”
Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu CBSW: “Rydym ni i gyd yn ymwybodol o effaith fawr Covid-19 ar yr economi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a dyna pam ei bod yn bwysig i gymaint o bobl â phosibl gwblhau arolwg y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Bydd yn helpu’r Bwrdd i greu darlun cywir o’r sefyllfa a’r ffyrdd go iawn y gellid helpu busnesau’r rhanbarth godi ar eu traed unwaith eto a ffynnu.
“Bydd y Bwrdd yn gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod busnesau yn ymwybodol o’r arolwg ac yn gallu dweud eu dweud, er mwyn i’r cynlluniau a gynhyrchir adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ac, wrth symud ymlaen, y gallwn ni gydweithio i gefnogi a thyfu economi’r rhanbarth.”
I lenwi’r arolwg, ewch i https://arolwg.gwynedd.llyw.cymru/index.php/547464?lang=cy (Cymraeg) neu https://arolwg.gwynedd.llyw.cymru/index.php/547464?lang=en (Saesneg).
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN