Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych i rieni – Disgwylir i Ardaloedd Chwarae agor yfory (24.07.20)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newyddion gwych i rieni – Disgwylir i Ardaloedd Chwarae agor yfory (24.07.20)
Y cyngor

Newyddion gwych i rieni – Disgwylir i Ardaloedd Chwarae agor yfory (24.07.20)

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 23, 2020 4:19 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Play Areas
RHANNU

Mae ein hardaloedd chwarae plant a champfeydd awyr agored yn ailagor o yfory ymlaen – dydd Gwener, Gorffennaf 24, 2020.

Cafodd yr holl gyfleusterau hyn eu cau ym mis Mawrth yn unol â rheolau’r cyfnod clo yn dilyn y pandemig coronafeirws.

Byddwch yn ymwybodol y bydd yr holl adeiladau sy’n ymwneud â’r safleoedd hyn yn parhau ar gau tan yr hysbysir yn wahanol.

Yn unol â chyhoeddiad llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau, bydd rheolau newydd y dylid glynu atynt er diogelwch pawb, bydd y rheolau yn cael eu dangos ar arwyddion o amgylch y cyfleusterau hyn.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Darllenwch y canllawiau diogelwch yn ofalus os ydych yn bwriadu ymweld ag unrhyw ardaloedd chwarae:-

  • Os nad yw’r cyfleuster ardal chwarae yr ydych yn ymweld â hi wedi agor yn swyddogol eto, peidiwch â cheisio defnyddio’r offer na’r ardal
  • Peidiwch â thynnu unrhyw rwystrau dros dro yn yr ardal chwarae, na thynnu ceblau clymu sydd wedi cael eu defnyddio i ddiogelu mynedfa neu offer – rhaid i hyn gael ei wneud yn ddiogel gan staff CBSW.
  • Dilynwch y canllawiau cadw pellter cymdeithasol presennol wrth ymweld, ac anogwch eich plant i wneud yr un fath
  • Os yw’r ardal chwarae yn brysur, ystyriwch ddod yn ôl ar amser gwahanol. Siaradwch gyda’ch plant am y posibilrwydd yma cyn i chi gyrraedd, er mwyn osgoi siom.
  • Golchwch eich dwylo eich hun a dwylo eich plentyn cyn ac ar ôl ymweld â’r ardal chwarae. Ewch â diheintydd dwylo gyda chi ac ystyriwch fynd a photel o ddŵr gyda chi os yw dwylo eich plentyn yn mynd yn fudr.
  • Dilynwch a glynwch ar holl gyngor presennol y llywodraeth, yn ogystal â’r canllawiau uchod, a dilynwch yr holl wybodaeth ar yr arwyddion sydd wedi’u gosod ar y giatiau mynediad.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd rhieni’n croesawu’r newyddion bod yr ardaloedd chwarae yn ailagor, yn arbennig gan fod gwyliau’r haf yma. Fodd bynnag, anogaf bawb i fod yn wyliadwrus a dilyn y canllawiau er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol help Helpwch i roi hwb i fusnesau Cymru
Erthygl nesaf iPad iPads yn darparu achubiaeth hanfodol i 5 o ddefnyddwyr llyfrgell ynysig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English