Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch ni i Gadw Wrecsam yn Daclus i gefnogi Caru Cymru – a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Helpwch ni i Gadw Wrecsam yn Daclus i gefnogi Caru Cymru – a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel
Y cyngor

Helpwch ni i Gadw Wrecsam yn Daclus i gefnogi Caru Cymru – a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2021 9:26 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Acton Park Gorsedd Stones
RHANNU

Heddiw, rydym yn gofyn i bawb helpu i gadw Wrecsam a gweddill Cymru yn daclus – a helpu i ofalu am ein cornel hyfryd ni o’r byd.

Fel rhan o’n hymdrechion i annog pawb i gymryd rhan, rydym yn cydweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer eu hymgyrch hirdymor newydd, ‘Caru Cymru.’

Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy a mwy o drigolion wedi rhoi gwybod nad ydynt yn hapus â’r ardaloedd y maent yn byw ac yn gwneud ymarfer corff ynddynt yn sgil sbwriel a baw cŵn.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae hyn yn bwysig i bobl, ac mae bellach yn bryd i ni weithio gyda’n gilydd ar draws Wrecsam a Chymru i dacluso ein parciau, lleiniau glas a mannau agored.

Yn Wrecsam, rydym yn arbennig o lwcus i gael ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a diddordeb gwyddonol arbennig, yn ogystal â pharciau a mannau agored y Faner Werdd… felly mae’n bwysig ein bod yn eu gweld ar eu gorau, heb sbwriel a’r broblem o faw cŵn a thipio anghyfreithlon.

Yn ogystal â difethaf ein gallu i fwynhau ein hamgylchedd, mae sbwriel yn bygwth cynefinoedd a bywyd gwyllt.

Sut allaf wneud gwahaniaeth?

  • Sicrhewch eich bod yn cario eich sbwriel adref gyda chi neu’n ei roi mewn bin bob amser.
  • Sicrhewch eich bod yn clirio baw eich ci ar ôl iddynt faeddu.
  • Trefnwch sesiwn casglu sbwriel cymunedol – gall Caru Cymru eich helpu gyda hyn a gallwch ddarganfod mwy ar-lein.
  • Rhowch wybod am unrhyw graffiti neu achosion o dipio anghyfreithlon ar-lein –
  • Peidiwch â chael eich dal allan â chynnig ‘dyn mewn fan’. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwaredu eich gwastraff feddu ar Drwydded Cludydd Gwastraff. Sicrhewch eich bod yn gofyn i weld y drwydded cyn talu rhywun i waredu eich sbwriel.

Os ydych yn dod ar draws achos o dipio anghyfreithlon, peidiwch ag agor na symud unrhyw fagiau.

Os ydych yn rhoi gwybod i ni achosion o dipio anghyfreithlon, gall ein swyddogion ymchwilio i’r mater yn ddiogel a gweld a oes unrhyw fanylion y gallwn eu defnyddio i gyflwyno dirwyon, neu hyd yn oed ystyried erlyniaeth neu rybudd cosb benodedig.

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi anfon neges gref at y rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon drwy gymeradwyo dirwyon o hyd at £400… dyma enghraifft arall o sut rydym yn gwrando ar bryderon gan drigolion lleol sy’n pryderu am dipio anghyfreithlon.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gwerthfawrogi ein cymunedau, ac rydym yn galw ar bawb i wneud gwahaniaeth drwy helpu i’w cadw’n lân ac yn daclus.

“Gall bob un ohonom helpu gyda hyn, a chyn belled ein bod yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, dylai bob un ohonom wneud ein rhan i atal sbwriel rhag bod yn niwsans.

“Mae pob un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor a dylid mynd ag unrhyw wastraff dros ben i un o’r canolfannau hyn.

“Mae clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon hefyd yn defnyddio amser ac adnoddau gwerthfawr. Wrth ystyried maint y fwrdeistref sirol, nid oes gennym yr amser na’r adnoddau ar gyfer hyn… felly gwnewch eich rhan a chefnogwch Caru Wrecsam a Caru Cymru.”

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Young Carer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc – cefnogi Gofalwyr Ifanc arwrol yng Ngogledd Cymru
Erthygl nesaf Trevor Basin Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English