Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd
ArallPobl a lle

Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/17 at 2:39 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Trevor Basin
Pontcysyllte Aqueduct, World Heritage site in Wrexham
RHANNU

Erthygl Wadd gan “Ein Tirlun Darluniadwy”

Mae tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd sydd â’r nod o gysylltu’r gymuned leol â’i threftadaeth naturiol gyfoethog.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy yn gynllun partneriaeth tirlun a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar dirluniau Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae harddwch Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, beirdd a llenorion ers canrifoedd.  Er mwyn parhau â’r traddodiad hwn, mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy yn cynnal pedwar Preswyliad Artist llenyddol yn 2021, ac rydym wrth ein boddau’n cael cyhoeddi pwy yw’r artistiaid fydd yn gweithio gyda ni:

Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd

Hywel Griffiths: Bardd Cymraeg a daearyddwr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw Hywel Griffiths. Mae’n brifardd y goron a’r gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd ei gyfrol ddiweddaraf – Llif Coch Awst – gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae ei ddiddordebau academaidd yn cynnwys perthynas pobl â’r dirwedd, llifogydd a phrosesau afonol, a chydweithio rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau.

Jessica and Philip Hatcher-Moore: Mae Jessica a Philip yn ŵr a gwraig sy’n byw yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae Jessica yn newyddiadurwr, awdur ac awdur taith arobryn a fu’n gweithio i’r Guardian yn Nwyrain Affrica am bum mlynedd cyn ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Nodweddir ei straeon gan leisiau nad ydynt yn cael eu clywed, a phethau annhebygol; bydd llyfr cyntaf Jessica, After Birth, sy’n trafod gwella ar ôl rhoi genedigaeth, yn cael ei gyhoeddi gan Profile ym mis Mai 2021. Mae Philip yn ffotograffydd sy’n byw ar ochr bryn yng ngogledd Cymru. Mae ei waith, sydd wedi’i gydnabod gan sawl gwobr ac arddangosfa ryngwladol, yn archwilio perthynas cymdeithas â’r tirlun a’r amgylchedd, ac yn cwmpasu mwy na degawd o groniclo ar draws y byd.

James Hudson: Mae James yn Artist Gweledol sy’n gweithio ar brosiectau lled-ffuglennol sy’n cyfuno ffotograffiaeth wreiddiol, testun a collage. Mae ei brosiectau fel arfer yn gomisiynau neu’n breswyliadau i sefydliadau a brandiau diwylliannol.

Sian Northey: Mae Sian yn fardd, awdur, cyfieithydd ac arweinydd gweithdai. Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020),  casgliad o straeon byrion gyda lluniau gan y ffotograffydd Iestyn Hughes.

Bydd y preswyliadau’n archwilio’r cysylltiadau rhwng pobl a llefydd, ddoe a heddiw. Drwy gydol y flwyddyn bydd yr artistiaid yn treulio amser yn nhirluniau Dyffryn Dyfrdwy ac yn cyfarfod â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Bydd eu gwaith, fydd yn cynnwys barddoniaeth, llenyddiaeth, y gair llafar a chelf weledol, yn cael ei greu mewn ymateb i’r profiadau hyn ac yn cael ei rannu â thrigolion ac ymwelwyr â’r ardal mewn arddangosfeydd, perfformiadau, mewn print ac yn ddigidol.

Byddwn yn postio diweddariadau am y preswyliadau drwy gydol y flwyddyn felly dilynwch brosiect #EinTirlunDarluniadwy ar y cyfryngau cymdeithasol (@Clwyd_Dee_AONB) er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd yn digwydd.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nhymru:

“Mae Dyffryn Dyfrdwy – gyda’i olygfeydd godidog, pensaernïaeth ddiwydiannol gyfoethog a hanes, nid yn unig yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn Safle Treftadaeth y Byd, mae hefyd yn drysor cenedlaethol.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cefnogi’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ i gysylltu pobl â’r dirwedd ysbrydoledig hon a gwella mynediad iddi. Mae’r cam diweddaraf o’r prosiect sydd wedi’i wneud yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn parhau â’r gwaith pwysig hwn. ”

Tirwedd hardd a hanesyddol GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU yn destun prosiect celf newydd

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

CANFOD Y FFEITHIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Acton Park Gorsedd Stones Helpwch ni i Gadw Wrecsam yn Daclus i gefnogi Caru Cymru – a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel
Erthygl nesaf A483 Mae Growth Track 360 yn croesawu Adroddiad Interim Adolygiad O Gysylltedd Yr Undeb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English