Waste

Rydym yn gwybod mai gwagio eich biniau a’ch cynwysyddion ailgylchu yw’r gwasanaeth mwyaf a mwyaf gweladwy rydym yn ei ddarparu i bob un o’n preswylwyr, mae’n debyg.

Mae ein criwiau yn mynd i bob stryd a chartref ym mwrdeistref sirol Wrecsam bob wythnos a chynnal gwasanaeth cael gwared ar wastraff cyffredinol yw un o’n gwasanaethau hanfodol. Byddwn yn cynnal y gwasanaeth hwn gyda chyn lleied ag sy’n bosibl o amhariad dros yr wythnosau nesaf.

Er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn ystod sefyllfa’r Coronafeirws, COVID-19, dylech ddilyn rhagofalon hylendid caeth. Maen nhw’n hanfodol os ydym am eich cadw chi a’n criwiau’n ddiogel dros yr wythnosau nesaf.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Rydym yn gofyn i chi:

  • Wirio ein gwefan  neu ein blog newyddion a dilyn ein cyfrif Twitter: @cbswrecsam Facebook: Cyngor Wrecsam
  • Golchwch eich dwylo a diheintio handlenni eich bag/bin/bocs/cadi cyn ac ar ôl eu cyffwrdd
  • Peidiwch â rhoi hancesi papur yn eich cynwysyddion ailgylchu oherwydd ni ellir eu hailgylchu
  • Os ydych yn hunanynysu ac yn teimlo’n sâl, rhowch eich gwastraff personol fel hancesi papur mewn bag dwbl a’i roi i un ochr am 72 awr cyn ei roi allan i’w gasglu
  • Mae staff casglu yn weithwyr allweddol, cadwch nhw’n saff i barhau â’u gwaith

Hoffem hefyd ddiolch i chi am eich geiriau a negeseuon caredig sydd wedi’u gadael i’n criwiau. Daliwch ati i gynnig eich cefnogaeth iddynt. Mae’n bwysig ac mae’n cadw morâl i fyny yn ystod y cyfnod anodd hwn.

A chofiwch – caiff biniau a chynwysyddion ailgylchu eu gwagio fel arfer ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg.

Gwastraff dros ben

Rydym wedi cau ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref bellach.

Tra bod y safleoedd ar gau, rydym yn gofyn i chi:

  • Lleihau’r gwastraff rydych yn ei greu – peidiwch â gwneud unrhyw ‘clear outs’ gartref, neu gwnewch unrhyw beth arall sy’n creu sbwriel ychwanegol (e.e. rhai prosiectau DIY ac ati). Rydyn ni’n gwybod nad yw’n hawdd, ond trio i gadw eich gwastraff i’r lleiafswm.
  • Rhowch unrhyw wastraff gardd yn eich bin gwyrdd fel arfer (byddwn yn barhau i gwagio biniau gwyrdd cyhyd ag y gallwn), a storio unrhyw wastraff gardd ychwanegol – na allwch ei ffitio yn eich bin yn eich gardd am y tro. Er enghraifft, os ydych chi wedi bod yn tocio llwyni, efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r toriadau mewn pentwr am y tro.
  • Cadwch unrhyw eitemau eraill y byddech chi fel arfer yn mynd â nhw i’r domen (hen ddodrefn, pren, nwyddau trydanol ac ati) gartref am y tro – oni bai eu bod yn addas i’w rhoi yn eich bin du.

Peidiwch â chael eich temtio i dipio’n anghyfreithlon … peidiwch â gadael gwastraff wrth y giât neu ar ochr y ffordd, nac unrhyw le arall lle na ddylid ei adael.

Mae hwn yn gyfnod anhygoel o heriol i bawb yn y DU, ac mae ein bywydau beunyddiol yn cael eu heffeithio mewn pob math o ffyrdd.

Ond peidiwch â meddwl nad ydym yn poeni sut mae hyn yn effeithio arnoch chi. Rydym yn gwneud hynny, ac rydym yn gweithio’n ddi-baid i gadw gwasanaethau critigol yn mynd yn Wrecsam.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19