Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 
Pobl a lleArall

CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2023 1:46 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
HMRC
RHANNU

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn dyrannu £5.5 miliwn i sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol er mwyn iddynt roi cymorth i gwsmeriaid y gallai fod angen help ychwanegol arnynt gyda’u materion treth. 

Mae CThEF yn gwahodd sefydliadau cymwys i wneud cais am y cyllid, sy’n werth £1.8m y flwyddyn o 2024 tan 2027, drwy gynllun Cyllid Grant y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) CThEF. Gellir cyflwyno ceisiadau rhwng 24 Gorffennaf a 21 Awst 2023. Bydd y sefydliadau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref, i’w paratoi ar gyfer y cyllid newydd a fydd yn dechrau o 1 Ebrill 2024 ymlaen. 

Dyma’r 12fed rownd o gyllid y mae CThEF yn ei ddyrannu fel rhan o’i ymrwymiad i helpu pawb i gael eu treth yn gywir. Mae’r cynllun yn parhau â mwy na degawd o gyllid partneriaeth, sy’n werth dros £20m.

Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF: 

“Rydyn ni’n gwybod bod cwsmeriaid wir yn gwerthfawrogi’r cyngor treth dibynadwy y maen nhw’n ei gael gan ein partneriaid yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Mae’r cynllun cyllid yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i roi cymorth i’r cwsmeriaid hynny y mae’n anodd eu cyrraedd, ac mae’n datblygu’r cymorth presennol y mae CThEF yn ei gynnig i’r rhai y mae angen help ychwanegol arnynt gyda’u materion treth.” 

“Mae RNIB yn hynod ddiolchgar i CThEF”

Meddai David Newbold, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cyngor ar Golli Golwg, o RNIB, sef un o 12 sefydliad sydd wedi cael arian cyn hyn drwy’r cynllun cyllid grant, “Mae RNIB yn hynod ddiolchgar i CThEF am ei gymorth hael, sy’n helpu i sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu cael mynediad at y cyngor, y wybodaeth a’r help ymarferol sydd eu hangen arnynt i ddelio â’u materion treth a CThEF. Rydym yn falch o gael CThEF fel partner, ac mae ei gyfraniad yn hanfodol wrth i ni barhau â’n gwaith pwysig o roi cymorth i unigolion sy’n agored i niwed.” 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae sefydliadau sydd wedi cael arian drwy’r cynllun cyllid grant wedi rhoi cymorth i 39,000 o gwsmeriaid dros y ffôn, gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb, a thrwy e-bost. 

Bydd sefydliadau llwyddiannus yn cael arian i roi cyngor a chymorth – yn rhad ac am ddim – i gwsmeriaid sydd: 

  • yn wynebu rhwystrau o ran deall eu hymrwymiadau treth ac wrth hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo
  • yn cael eu heithrio rhag cael mynediad at wasanaethau CThEF drwy ddull digidol 
  • yn cael unrhyw anhawster arall wrth ryngweithio’n uniongyrchol â CThEF. 

Yn ogystal â rhoi cymorth i gwsmeriaid y gallai fod angen help ychwanegol arnynt, bydd sefydliadau’n rhannu safbwyntiau gwerthfawr sy’n helpu CThEF i ddeall profiad cwsmeriaid sy’n agored i niwed. Bydd hyn yn galluogi CThEF i gwtogi ar y rhwystrau, a gwella profiad cwsmeriaid wrth iddynt ddelio â’r adran. 

I’r sawl sy’n ei chael hi’n anodd cysylltu â CThEF oherwydd cyflyrau iechyd neu eu hamgylchiadau personol, bydd Cynllun Cyllid Grant y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn ategu gwaith Tîm Cymorth Ychwanegol CThEF sydd wrth law i helpu ein cwsmeriaid.  

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra a sut i wneud cais ar gael ar-lein yn GOV.UK. 

Mae’n bosibl yr hoffech ddarllen hefyd am Nifer syfrdanol o 27,844 o gwsmeriaid credydau treth yn adnewyddu drwy ap CThEF

Rhannu
Erthygl flaenorol Penygelli School Ysgol Penygelli yn falch o adroddiad arolygu cadarnhaol
Erthygl nesaf Nottingham Door Knockers Rhybudd ar ôl Adroddiadau o ‘Gnocwyr Nottingham’ yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English