Am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd bydd llong ryfel y Llynges Frenhinol yn gysylltiedig â dinas Wrecsam.
Fe’i hadnabyddir yn syth gan ei Dreigiau Cymreig ar draws ei bwâu, daeth HMS Dragon y bedwaredd long ryfel i gael ei chysylltu â’r ddinas mewn seremoni yn ei phorthladd cartref yn Portsmouth.
Bu i swyddogion ymgynnull ar HMS Dragon – un o ddinistrwyr amddiffyn yr awyr Math 45 mwyaf datblygedig y Llynges Frenhinol – i drosglwyddo’r cysylltiad yn swyddogol o brifddinas Cymru, Caerdydd i Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog y llong, y Cadlywydd Iain Giffin: “Mae HMS Dragon wedi mwynhau cysylltiad balch a chryf gyda Dinas Caerdydd am dros ddeuddeg mlynedd. Hoffem estyn ein diolch twymgalon i swyddogion a thrigolion y ddinas am y lletygarwch a’r cyfeillgarwch a ddangoswyd i ni fel eu llong ryfel gyswllt.
“Mae Caerdydd wedi bod yn bartner amhrisiadwy ac rydym yn trysori’r atgofion a’r perthnasau a wnaed dros y blynyddoedd. Rydym yn falch y bydd y Llynges Frenhinol yn cynnal partneriaeth agos gyda Dinas Caerdydd a dymunwn bob llwyddiant iddynt ar gyfer eu cysylltiad yn y dyfodol gyda HMS Caerdydd.
“Mae HMS Dragon yn hynod falch o allu parhau i ddilyn traddodiadau gwych ein treftadaeth Gymreig, ac i sefydlu partneriaeth newydd a chysylltiad ffurfiol gyda Dinas Wrecsam. Mae’n anrhydedd fod Wrecsam wedi cytuno i fod yn gysylltiedig â HMS Dragon ac rydym yn edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth gref a chadarn gyda’r ddinas a’i phobl. Croeso, Wrecsam.”
Bu i’r cysylltiadau blaenorol â Wrecsam ddeillio o Wythnosau Llongau Rhyfel – ymgyrchoedd cenedlaethol yn yr Ail Ryfel Byd gyda’r nod o ddinas, tref neu bentref yn mabwysiadu llong ryfel y Llynges Frenhinol i godi arian i dalu am long benodol.
Bu i Fwrdeistref Sirol Wrecsam fabwysiadu tair llong yn ystod y rhyfel.
Roedd yr W-class destroyer HMS Veteran – a suddwyd yn 1942 gan dorpido Almaenig yng Ngogledd yr Iwerydd – yn gysylltiedig â Wrecsam ei hun, tra bod y Flower-class corvette HMS Begonia – a werthwyd yn 1946 – yn gysylltiedig â Gorllewin Wrecsam, tra bod HMS Anemone – a werthwyd i Norwy yn 1949 – yn gysylltiedig â Rhosllanerchrugog, sydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ochr yn ochr â HMS Dragon yn Safle’r Llynges yn Portsmouth roedd swyddogion o Ddinasoedd Caerdydd a Wrecsam, gan gynnwys Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams ac Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mark Pritchard yn ogystal â Chefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverly Parry-Jones.
Dywedodd y Cynghorydd Parry Jones: “Mae gan Wrecsam gysylltiad hir a balch gyda’r lluoedd arfog, ac mae hyn yn anrhydedd enfawr i’r ddinas. Rydym yn hynod o falch o gefnogi’r dynion a’r merched sy’n gwasanaethu ein gwlad – maent yn gwneud gwaith anhygoel wrth ein cadw yn ddiogel, a bydd yn anrhydedd mawr cael cefnogi HMS Dragon a phawb sy’n gwasanaethu arni.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chwmni’r llong a’u croesawu i Wrecsam yn y dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Hoffaf ddiolch i’r Llynges Frenhinol am ein croesawu ni i Portsmouth – roedd yn ddiwrnod o falchder i Wrecsam ac yn achlysur arbennig iawn.
“Mae gan Wrecsam gysylltiad cryf â’r lluoedd arfog ac mae cael ein cysylltu ag HMS Dragon yn fraint fawr i ddinas Wrecsam.”
Bydd HMS Dragon, sy’n cael gwaith adnewyddu yn Portsmouth ar hyn o bryd, yn ymddangos yn y misoedd nesaf ar ôl uwchraddio’r injans, synwyryddion a systemau arfau, a fydd yn rhoi hwb i’w galluoedd sydd eisoes yn arwain y gad.
Bydd systemau HMS Dragon yn cael eu treialu yn yr iard longau cyn iddi fynd ymlaen i gynnal treialon môr helaeth ar hyd arfordir y de, i brofi ei systemau ymladd estynedig a pherfformiadau pŵer.