Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gosod Arwydd Newydd Porth Dinas Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gosod Arwydd Newydd Porth Dinas Wrecsam
ArallPobl a lleY cyngor

Gosod Arwydd Newydd Porth Dinas Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 7, 2024 2:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gosod Arwydd Newydd Porth Dinas Wrecsam
RHANNU

Bydd defnyddwyr y ffordd sy’n dod i mewn i Sir Wrecsam eleni yn cael eu croesawu gan arwydd newydd ar ochr y ffordd i borth Wrecsam o ganlyniad i bron i £30,000 o gyllid sydd wedi ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Y Pethau Pwysig.

Mae’r arwydd newydd wedi ei godi fel rhan o ymrwymiad Cyngor Wrecsam i gefnogi Cynllun Rheoli Cyrchfan y Sir a chreu argraff smart a chroesawgar i ymwelwyr a ddaw i’r sir. 

Sicrhawyd £29,807 ar gyfer Wrecsam o raglen Y Pethau Pwysig o gronfa £5 miliwn ar draws Cymru ar gyfer 2023-25, a gaiff ei rhannu rhwng 29 o brosiectau a fydd yn helpu i gyflawni gwelliannau isadeiledd ar raddfa fach mewn lleoliadau i ymwelwyr ar hyd a lled Cymru.

Mae’r gronfa’n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gyflawni gwelliannau a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol. Yn ogystal â’r arwydd yn Wrecsam, mae’r gronfa eleni’n cefnogi amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys mentrau i helpu i leddfu pwysau mewn ardaloedd lle mae cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, prosiectau i wella hygyrchedd a phrosiectau sy’n gwneud eu cyrchfannau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

“Rydym yn hynod o falch o fod wedi sicrhau’r cyllid hwn o’r rhaglen Y Pethau Pwysig a bydd yr arwydd newydd yn ychwanegiad i’n priffyrdd a gaiff ei groesawu wrth i ni ddechrau ar y tymor ymwelwyr newydd.  Mae’r arwydd yn adlewyrchu ein statws Dinas newydd a roddwyd yn 2022 ac mae’n disodli’r hen arwydd i wella argraffiadau cyntaf defnyddwyr y ffyrdd.”

Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru:

“Bydd y buddsoddiad £5 miliwn hwn ar gyfer ystod o brosiectau newydd yn helpu i ddarparu profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf i bobl sy’n dewis gwyliau yng Nghymru.

“Mae’r prosiectau a gefnogir drwy’r gronfa Pethau Pwysig yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i’w chwarae mewn gwneud taith yn un gofiadwy ac er na sylwir yn aml ar y mathau hyn o gyfleusterau, maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelydd, tra’u bod hefyd o fudd i’r rhai hynny sy’n byw yn y cymunedau hyn.”

Yn ychwanegol at yr arwydd croeso, bydd y cyllid a sicrhawyd hefyd yn galluogi adnewyddu sawl bwrdd gwybodaeth i ymwelwyr mewn cilfannau ffyrdd dosbarth A yn yr Orsedd, Y Waun, Bwlchgwyn ac ar y ffin â’r Eglwys Wen.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hwb Cymraeg yn Focus Wales 9-11 Mai Hwb Cymraeg yn Focus Wales 9-11 Mai
Erthygl nesaf HMS Dragon yw’r llong gyntaf ers yr ail ryfel byd i fod yn gysylltiedig â Wrecsam HMS Dragon yw’r llong gyntaf ers yr ail ryfel byd i fod yn gysylltiedig â Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English