Os ydych yn chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol i’w wneud ar y nos Wener cyn y Nadolig, dewch draw i noson gomedi Tŷ Pawb!
Mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn noson Nadoligaidd wych gydag adloniant penigamp gan gynnwys digrifwyr proffesiynol o’r gylched deithiol genedlaethol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae’n gyfle perffaith i fwynhau noson o adloniant a fydd yn siŵr o’ch llawenhau!
Bydd angen i chi frysio gan fod y noson gomedi ddiwethaf a gynhaliwyd yn Nhŷ Pawb wedi gwerthu allan!
Pwy fydd yno?
Ignacio Lopez
• “Unigryw a digrif dros ben” – cylchgrawn BUZZ
• “Set berffaith o ran tôn” – Wales Online
• “Roedd y dorf yn rhuo chwerthin” – Get Reading
Callum Oakley
• “Seren newydd…” – David Walliams
• Seren Britain’s Got Talent 2012
Ac arweinydd y noson yw neb llai na… Kevin Caswell-Jones o Wrecsam
• “Hyfryd o sinigaidd a doniol iawn wir” – Kill for a seat comedy
• “Dychmygwch pe bai’ch taid yn cŵl” – Clwb comedi ‘Hot Water’, Lerpwl
Ymunwch â ni am noson arall o gomedi proffesiynol penigamp gan rai o ddigrifwyr teithiol mwyaf blaenllaw y DU. Y rhestr berfformwyr ar hyn o bryd* yw:
7.30PM / £10
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]