Os ydych chi’n chwilio am rhywbeth lleol i’w wneud dydd Sadwrn yma, yna pam na ewch i ymweld â chanol y dref lle mae llawer iawn o bethau’n digwydd!

Mae popeth yn barod ar gyfer Gŵyl Stryd Mehefin, a bydd yn ddigwyddiad cyffrous iawn! Y mis hwn, maen nhw wedi uno gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a fydd yn cynnal eu Diwrnod Gwirfoddolwyr ar Sgwâr y Frenhines.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Bydd llwyth o stondinau a gweithgareddau, grwpiau cymunedol, sefydliadau a pherfformwyr a fydd yn dod at ei gilydd i gael un dathliad mawr ar gyfer ymwelwyr â chanol y dref i’w mwynhau.

Bydd Techniquest ar agor unwaith eto yn hen adeilad TJ Hughes lle gallwch weld arddangosfeydd hyd yn oed yn fwy ac yn well nag erioed – chewch chi ddim eich siomi gyda’r Stondin Wyddoniaeth Hwyl i’r Teulu!

Bydd Tŷ Pawb yn ymuno yn yr hwyl gyda rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y dydd gan gynnwys Siop Cyfnewid Sticeri Cwpan y Byd, agor dau arddangosfa newydd “Wrecsam yw’r Enw” a “Nascent Inclinations” (arddangosfa graddedigion y brifysgol), Clwb Celf dydd Sadwrn a bydd y Gwasanaethau Ieuenctid yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yn arddangos yr holl wasanaethau ffantastig sydd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal a fydd yn cynnwys cerddoriaeth fyw a gweithgareddau celf a chrefft i blant.

Bydd “Arddangosfa Bysgio” gyda cherddoriaeth fyw rhwng 11am a 5pm ac wrth gwrs mae dwy gêm bêl-droed cwpan y byd Ffrainc v Ariannin ac Uruguay v Portiwgal ar y sgrin fawr.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael ar dudalen Facebook yr Ŵyl Stryd yn https://www.facebook.com/wrexhamstreetfestival.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm gyda Nascent Inclinations yn agor yn swyddogol am 5pm.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB