Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darganfyddwch eich artist mewnol yn y gweithdai hyn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg
Allech chi wneud unrhyw un o'r swyddi hyn?
Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Darganfyddwch eich artist mewnol yn y gweithdai hyn…
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Darganfyddwch eich artist mewnol yn y gweithdai hyn…

Diweddarwyd diwethaf: 2018/06/29 at 4:00 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Darganfyddwch eich artist mewnol yn y gweithdai hyn...
RHANNU

Darganfyddwch eich artist mewnol yn y gweithdai hyn...Dyma gyfle gwych i chi wella eich sgiliau mewn ystod o steiliau celf gwahanol gyda chymorth gan arbenigwyr.

Cynnwys
Arweiniad i’r sesiynauSut i gymryd rhan

Yn y fenter newydd a chyffrous yma, mae tWIG (Oriel Annibynnol Wrecsam) a Thŷ Pawb wedi dod ynghyd i gyflwyno cyfres o weithdai galw heibio cymunedol am ddim.

Bob prynhawn Mawrth trwy’r haf, byddwn yn cyflwyno sesiynau celf dan arweiniad tiwtor, gan ymdrin â sgiliau megis darlunio, technegau paentio a gwneud collage.

Mae’r gweithdai ar agor i bawb, o’r dechreuwr llwyr i’r arbenigwr!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Bydd tiwtoriaid profiadol tWIG wrth law i addysgu, helpu, llunio a rhannu technegau mewn awyrgylch ymlaciol a chyfeillgar.

Cynhelir pob sesiwn ar sail galw heibio felly does dim angen i chi drefnu lle ac nis oes angen i chi aros – felly beth am ddod draw i ymuno yn yr hwyl?

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Arweiniad i’r sesiynau

Gorffennaf 3 – Keith Evans – Gwneud Marciau

Bydd amrywiaeth eang o ddeunyddiau ac arwynebau darlunio yn cael eu darparu ac fe anogir y rhai sydd yn y gweithdy i arbrofi i wneud marciau mewn amrywiaeth o ffyrdd a chyfryngau.

Bydd Keith yn darparu arweiniad, cymorth a hyfforddiant fel y bo angen.
Mae croeso i ddechreuwyr llwyr ac arbenigwyr i ddod i roi cynnig ar wneud rhywbeth!

Gorffennaf 10 – Keith Evans – Paent

Byddwn yn darparu ystod o baent ac arwynebau i bobl roi cynnig arnynt. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i arbrofi gyda mathau gwahanol o gyfryngau, a gobeithio y byddant yn gallu datblygu un neu fwy o arbrofion mewn i rywbeth ystyrlon!

Bydd Keith yn arddangos y defnydd a hynodrwydd cyfryngau amrywiol, gan sôn am theori lliw, cymysgu ac ati fel y bo angen ac yn annog cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau.

17 Gorffennaf – Jacqui Blore – Celf Gwerinol

Bydd Jacqui yn arddangos technegau syml er mwyn goresgyn y meddylfryd ‘Alla i ddim paentio’ ymysg dechreuwyr ac yn ysgogi’r rhai mwy profiadol i edrych eto ar eu gwaith.

Bydd yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan ddefnyddio llinell a siâp syml i greu gwaith mewn steil ‘celf gwerin’ i gynhyrchu lluniau syml, hwyliog sydd yn hawdd i’w hadnabod.

Bydd Jacqui hefyd yn arddangos dulliau syml o greu paentiadau heb frwsys trwy ddefnyddio celf gyda llinyn, technegau trosglwyddo syml a phrintio sylfaenol.

Gorffennaf 24 – Dawn McGuire – Gweadau

Bydd Dawn yn arddangos gwaith haniaethol syml, gan ddefnyddio lliw i greu awyrgylch ac effaith a sut i gynnwys gwead a phatrwm i greu naill ai gwaith cynrychioladol neu waith haniaethol. Bydd yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, i greu’r effeithiau hyn.

Beth bynnag yw lefel eich arbenigrwydd, bydd y sesiwn hon yn gwneud i chi feddwl a gweithio mewn dull gwahanol.

Gorffennaf 31 – Liz Metcalfe – Collage

Bydd Liz yn gweithio mewn paent a chyfrwng cymysg, gan gynnwys technegau collage a stampio i arddangos a helpu i greu ystod anhygoel o ddelweddau, o realaeth i waith cwbl haniaethol. Beth bynnag ydi’ch sgiliau, byddwch yn creu rhywbeth gwahanol gyda’r tiwtor ysbrydoledig yma.

Awst 7 – Keith, Liz a Jacqui – Arddangosfa

Bydd y sesiwn hon yn un amrywiol gan gynnwys pob un o’r elfennau uchod, pan fyddwn ni’n ceisio creu ystod o ddelweddau a fydd yn arwain at arddangosfa ddifyfyr.

Bydd cyfranogwyr o sesiynau blaenorol yn cael eu hannog i ddychwelyd i’r sesiwn hon yn ogystal ag aelodau newydd.

Sut i gymryd rhan

  • Cynhelir y gweithdai bob dydd Mawrth o 1.00pm-3.30pm
  • Maen nhw’n weithdai galw heibio am ddim – nid oes angen archebu, dim ond troi i fyny!
  • Am fwy o wybodaeth, ffoniwch tWIG ar 01978 292093/07813845989 neu e-bostiwch twigwxm@gmail.com

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Each i wefan Tŷ Pawb yma.

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoffem eich gwahodd i fod yn rhan o ddiwrnod gwych! Hoffem eich gwahodd i fod yn rhan o ddiwrnod gwych!
Erthygl nesaf Ydych chi eisiau bod yn rhan o olygfa gelfyddydol Wrecsam? Edrychwch ar y cyfle swydd cyffrous hwn... Ydych chi eisiau bod yn rhan o olygfa gelfyddydol Wrecsam? Edrychwch ar y cyfle swydd cyffrous hwn…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 18, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Pobl a lle Y cyngor Mehefin 16, 2025
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Arall Busnes ac addysg Mehefin 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM
DigwyddiadauPobl a lle

CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM

Mehefin 18, 2025
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam

Mehefin 17, 2025
Gwersyllt Community Resource Centre
Pobl a lleY cyngor

Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos

Mehefin 16, 2025
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
ArallBusnes ac addysg

Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr

Mehefin 16, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English