Diweddarwyd 9.6.20
- O yfory ymlaen (10.6.20), byddwn yn codi’r gwaharddiad trelar dros dro yn ein canolfan ailgylchu Brymbo.
Bydd canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref Wrecsam yn ailagor ddydd Gwener, 15 Mai.
Caewyd y safleoedd yn fuan ym mis Ebrill yn rhan o ymateb y Cyngor i Covid-19, ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ar deithio hanfodol.
Ddydd Gwener diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ymestyn y cyfyngiadau ar symud am dair wythnos arall…ond gyda mân newidiadau, yn cynnwys caniatáu i bobl deithio i safleoedd ailgylchu pan fyddant yn ailagor.
Rydym wedi bod wrthi’n asesu’r canllaw newydd yn ofalus, a byddwn yn ailagor y tri safle ddydd Gwener, 15 Mai.
- Bryn Lane – ar agor rhwng 12pm a 8pm dydd Gwener yma, yna rhwng 8am a 8pm yn ddyddiol.
- Plas Madoc – ar agor rhwng 12pm a 8pm dydd Gwener yma, yna rhwng 8am a 8pm yn ddyddiol.
- Brymbo – ar agor rhwng 12pm a 8pm dydd Gwener yma, yna rhwng 8am a 8pm yn ddyddiol.
Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi canllawiau pellach ynghylch canolfannau ailgylchu yn hwyrach yn y wythnos. Rydym yn croesawu hwn a byddwn yn ei adeiladu mewn i sut yr ydym yn agor a rhedeg ein canolfannau.
Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel
Fe fyddwn yn gweithredu amodau llym iawn er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd.
Dilynwch y 10 rheol yma:
- Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
- Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol neu wastraff busnes gyda chi.
- Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol gyda chi (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
- Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
- Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch fod rhaid i blant aros yn y car trwy’r amser a ni chaniatawyd anifeiliaid anwes ar y safle.
- Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
- Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
- Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd gan weithwyr ar y safle gamerâu a wisgir ar y corff, bydd unrhyw achosion yn cael eu hymadrodd i’r heddlu.
- Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
- Os oes gennych chi eitemau ar gyfer y siop ailddefnyddio (e.e. beiciau a nwyddau eraill mewn cyflwr y gellir eu defnyddio eto) gadewch nhw adref am rŵan.
Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r rheolau neu’n tipio’n anghyfreithlon, felly dilynwch y cyfarwyddiadau yma…er mwyn helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl.
Dim ond oes rhaid y dylech ymweld
Cofiwch…mae Llywodraeth Cymru yn dal i’n hannog i aros adref gymaint ag y gallwn ni, felly peidiwch ag ymweld â’n safleoedd ailgylchu oni bai bod rhaid i chi.
Defnyddiwch ein gwasanaethau casglu ymyl palmant lle y bo’n bosibl er mwyn cael gwared ar eich sbwriel ac ailgylchu (cofiwch ei roi yn y bin neu gynhwysydd cywir, a darllenwch ein herthygl ddiweddar ynghylch sut i’n helpu i’w gasglu’n ddiogel).
Neu – os allwch chi – arhoswch nes ei bod ychydig yn fwy diogel cyn i chi ymweld â’n safleoedd ailgylchu.
Rydych chi wedi bod yn wych
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol:
“Rydym ni’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi llacio’r rheoliadau, gan alluogi i ni ailagor ein safleoedd ym Mryn Lane, Plas Madoc a’r Lodge ym Mrymbo.
“Fe wyddom fod y Coronafeirws wedi amharu’n fawr ar ein bywyd bob dydd, ac fe hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad tra roedd y safleoedd ar gau.
“Mae mwyafrif helaeth y bobl wedi bod yn wych, ac maent wedi cadw eu gwastraff ychwanegol gartref ac mae hynny wedi bob o help mawr i ni.
“Ond wrth i’r safleoedd ailagor, rydym yn gofyn am eich cydweithrediad parhaus er mwyn eu defnyddio’n gyfrifol.
“Rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n contractwr FCC Environment i sicrhau fod popeth yn cael ei reoli’n ofalus. Felly, dilynwch yr amodau llym os gwelwch yn dda…maent yno i’ch cadw’n ddiogel.
“Diolch”.
Cadwch at bellter cymdeithasol os gwelwch yn dda (neu bydd yn rhaid i ni gau’r safleoedd eto)
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:
“Mae pellter cymdeithasol yn hanfodol, a byddwn yn cynnal ymweliadau trwy gydol y penwythnos i sicrhau bod y rheolau yn cael eu hufuddhau.
“Os oes unrhyw broblemau yn ymwneud â diogelwch, neu os gwelwn fod defnyddwyr yn torri rheolau pellhau cymdeithasol, bydd y safleoedd yn cau ar unwaith.
“Mae angen i ni i gyd edrych allan am ein gilydd a helpu i gadw ein gilydd yn ddiogel… a dyna pam ei bod hi’n mor bwysig bod pobl yn cadw at bellter cymdeithasol, ac yn cadw at y rheol dau fetr bob amser pan fyddant yn ymweld â’n safleoedd.
“Hoffwn ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad … gwerthfawrogir yn fawr, a bydd yn helpu i sicrhau y gallwn weithredu’r canolfannau ailgylchu yn ddiogel ac yn effeithiol.”
Un peth arall…
Mae llawer o bobl yn cynnig gwasanaeth i gael gwared ar wastraff i bobl ar hyn o bryd.
Sylwch nad yw rhai o’r gweithredwyr yma’n gyfreithlon, ac fe fyddant yn cymryd eich sbwriel ac yn ei dipio’n anghyfreithlon yn rhywle…gan wneud arian allan ohonoch chi yn y broses.
Byddwch yn ofalus. Fe allech chi gael eich dal yn gyfrifol os byddant yn tipio eich gwastraff chi’n anghyfreithlon.
Os ydych chi’n talu i rywun gymryd eich gwastraff, sicrhewch eu bod yn gyfreithiol a bod ganddynt drwyddedau priodol (e.e. trwydded cludydd gwastraff).
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo i ail agor gyda system archebu