Welsh Language

Bydd HWB Cymraeg yn dychwelyd unwaith eto fel rhan o FOCUS Wales 2022 gan ddod â mwy o ddigwyddiadau ac artistiaid Cymraeg i’r ŵyl gerddoriaeth ryngwladol yn Wrecsam.

Gallwch ddod o hyd i bopeth Cymraeg yn y tipi poblogaidd ar Sgwâr y Frenhines o ddydd Iau, Mai 5 tan ddydd Sadwrn, Mai 7.

Mae’r rhaglen ar gyfer HWB Cymraeg eleni yn cynnwys perfformwyr byw o fyd cerddoriaeth gyfoes boblogaidd Gymraeg, ynghyd â DJs a chorau.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Yn ystod y dydd, bydd HWB Cymraeg yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys corau, dangosiadau ffilm a gweithdai dysgu Cymraeg.

Mae perfformiadau byw yn yr HWB yn cychwyn o 6pm bob nos, gyda’r rhaglen eleni yn cynnwys artistiaid megis: Parisa Fouladi, Morgan Elwy, She’s Got Spies a Tapestri.

Ddydd Sadwrn 7 Mai, bydd Coleg Cambria yn lansio ei chwrs Cymraeg newydd i rieni ‘Cymraeg yn y Cartref’ rhwng 10.30 a 12.30. Bydd stori a chân, crefftau, helfa drysor a chymorth ymarferol ar sut i gefnogi dwyieithrwydd – bydd y cymeriad poblogaidd Magi Ann hefyd yn gwneud ymddangosiad i’w groesawu.

Cliciwch yma am y rhestr lawn.

Dywedodd Stephen Jones, Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Wrecsam: “Mae’n wych bod yn ôl ar y Sgwâr fel rhan o FOCUS Wales. Mae’n hynod bwysig bod gan siaradwyr a dysgwyr Cymraeg rywle i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol ac mae’r digwyddiad hwn ynghyd â Saith Seren a Tŷ Pawb yn cynnig hwn a llawer mwy.

“Hoffwn hefyd ddiolch i FOCUS Wales am eu cefnogaeth i’r HWB Cymraeg, a hoffwn annog unrhyw un sydd heb ymweld â’r HWB yn y blynyddoedd blaenorol i ddod i weld beth sydd gennym ni eleni.”

Beth yw HWB Cymraeg?

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH