Freedom Fibre

Yr wythnos hon, dechreuodd gwmni newydd Freedom Fibre ar raglen fuddsoddi fawr a ddyluniwyd er mwyn rhoi hwb enfawr i rwydwaith band eang ffibr llawn Wrecsam.

Mae llawer o fand eang y fwrdeistref sirol yn dal i ddibynnu ar dechnoleg llinell ffôn copr, ond mae ffibr llawn yn golygu y gall preswylwyr a busnesau ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd â chyflymder o hyd at 1,000 megabeit yr eiliad.

Mae Freedom Fibre yn gobeithio y bydd  eu cwsmeriaid cyntaf yn gallu cysylltu â’r rhwydwaith o’r gaeaf hwn ymlaen.

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Wrth siarad ar y cyd â’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam, a’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn fuddsoddiad anhygoel yn isadeiledd digidol Wrecsam, a chaiff ei groesawu’n fawr gan y Cyngor. Mae’n creu rhwydwaith sy’n diogelu canol dinas Wrecsam a’r fwrdeistref sirol gyfan ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â rhoi dewis o ddarparwyr ffibr llawn i’r trigolion, sy’n bwysig iawn.”

Dywedodd Marie Danby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Freedom Fibre: “Nid yn unig y bydd y buddsoddiad gwerth miliynau ar filiynau o bunnoedd i isadeiledd digidol Wrecsam yn diogelu’r sir ar gyfer y dyfodol cyn i’r rhwydwaith gopr gael ei diffodd, ond bydd hefyd yn gwneud Wrecsam yn un o’r llefydd gorau o ran cysylltiad ym Mhrydain.”

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Cymerwch ran yn ein harolwg