Bydd cyrraedd Caer ar y trên yn gyflymach cyn bo hir diolch i fuddsoddiad o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i wella’r rhwydwaith rheilffyrdd yn yr ardal ac i uwchraddio Cyffordd Gogledd Wrecsam fel prosiect blaenoriaeth.
Mae’r arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i edrych ar amrywiaeth o welliannau eraill a fydd yn cynnal y cynnydd mewn gwasanaethau i Gaer. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau i signalau ac i’r seilwaith yn ogystal ag i groesfannau gwastad yn yr ardal.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant wedi croesawu’r newyddion: “Rydym wedi lobio ers blynyddoedd am welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd a fydd o fantais i Wrecsam. Rwy’n croesawu Trafnidiaeth Cymru fel rhan o fasnachfraint newydd Cymru sy’n cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION