Ddydd Sadwrn, Tachwedd 15, bydd Wrecsam yn cael ei goleuo â disgleirdeb Nadoligaidd wrth gynnau’r goleuadau Nadolig a chynnal gorymdaith lusernau yn y ddinas.
Gyda diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan, mae’r digwyddiad eleni yn addo bod yn ysblennydd. Mae’r digwyddiad yn cael ei gydlynu mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Wrecsam, Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod, Hosbis Tŷ Nightingale a Fair Event Management.
Dod o hyd i’r anrheg berffaith
Mae’r digwyddiadau ar gyfer y diwrnod yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines o 12pm. Yma, bydd gan ymwelwyr ddigon o ddewis gydag amrywiaeth o stondinau marchnad artisan i’w chwilota.
Bydd anrhegion wedi’u crefftio’n lleol a’u gwneud â llaw ar gael, felly bydd dod o hyd i’r anrheg berffaith i’ch anwyliaid eleni yn hawdd.
Os yw’r holl siopa yn codi blys arnoch, mae gan y farchnad yr ateb i chi. Bydd danteithion, bwydydd a diodydd tymhorol hefyd ar gael i’w prynu.
Bydd perfformiadau ac adloniant byw Nadoligaidd yn mynd rhagddynt tra bydd ymwelwyr yn mwynhau dathliadau tymhorol.
Strydoedd hudolus
Am 4.30pm, bydd Gorymdaith Lusernau a Goleuadau Tŷ Nightingale yn ymgynnull ar Sgwâr y Frenhines, yn barod i ddod â golau a hud y Nadolig i’r strydoedd.
Anogir teuluoedd i helpu i fod yn rhan o’r orymdaith anhygoel hon wrth godi arian ar gyfer achos gwych trwy gofrestru eu plentyn i gerdded fel rhan o’r orymdaith er budd Tŷ Nightingale.
Mae’n costio £6 i’ch plentyn gymryd rhan ac mae oedolion sy’n cadw cwmni iddynt yn cael mynd am ddim. I gofrestru, ewch i wefan Hosbis Tŷ Nightingale.
Diweddglo Nadoligaidd
Draw yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod am 5.30pm, bydd pobl yn ymgynnull ar gyfer y diweddglo mawreddog. Yma, bydd ymwelwyr yn gweld yr olygfa Nadoligaidd o gynnau’r goleuadau.
Bydd cerddoriaeth fyw yn chwarae yn y cefndir gyda llu o westeion anhygoel. Eleni, bydd seren y West End Kayleigh McKnight, Livin’ Joy, Urban Cookie Collective a Dene Michael o Black Lace i gyd yn camu i’r llwyfan i gadw’r parti i fynd.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’n hyfryd gweld digwyddiad gyda chymaint o hwyl i’n cymuned. Mae pobl o bob oedran yn sicr o gael amser gwych wrth godi arian ar gyfer un o’n helusennau lleol hanfodol. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser gwych ac rwy’n eich annog chi i gyd i ledaenu hwyl y Nadolig ar hyd ein strydoedd”.


