Mae dau ffigwr amlwg sy’n arwain yr ymdrech i gefnogi’r economi yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri (Wirral) yn dweud eu bod nhw’n hyderus ynglŷn â’r dyfodol, er gwaethaf y cyfnod anodd.
Bu i gadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, y Cynghorydd Mark Pritchard, a’r llywydd, yr Arglwydd Barry Jones, gyfarfod yn Wrecsam yn ddiweddar i drafod yr heriau a’r cyfleoedd a oedd yn wynebu’r rhanbarth.
Daeth y Cynghorydd Pritchard yn gadeirydd ar y bartneriaeth drawsffiniol yn gynharach eleni, ac mae’r Arglwydd Barry wedi bod yn llywydd ers 2015.
Mae’r Gynghrair yn cefnogi busnesau, swyddi ac isadeiledd ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri.
Yn ddiweddar, croesawodd y bartneriaeth yr ymateb trawsffiniol i gefnogi gweithlu Airbus, ar ôl y newyddion y byddai rhai’n colli eu swyddi ar safle’r cwmni adeiladu awyrennau ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Heriau a chyfleoedd
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Rydw i wedi dweud yn y gorffennol fod Wrecsam, Gorllewin Swydd Gaer, Cilgwri a Sir y Fflint yn llefydd gwych yn eu rhinwedd eu hunain.
Ond mae gennym ni hefyd fond economaidd hynod o gryf, ac mae ein llais gymaint yn gryfach pan fyddwn ni’n cydweithio.
“Mae Covid-19 yn cael effaith aruthrol ar economi’r byd. O ystyried yr heriau mae ein rhanbarth ni’n eu hwynebu – gan gynnwys colli swyddi yn y diwydiant awyrofod – mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cydweithio.
“Mae hefyd yn bwysig cadw golwg ar y cyfleoedd sydd gennym ni, a bydd angen i’r bartneriaeth fwrw ymlaen â’i nod o ddenu buddsoddiadau i’r rhanbarth.
“Un nod sydd gennym yw parhau i ddatblygu potensial economaidd safleoedd cyflogaeth allweddol, ac ni fydd hynny’n newid.
“Gyda’r buddsoddiad cywir, gallai’r safleoedd hyn greu miloedd o swyddi newydd dros y 15 i 20 mlynedd nesaf ac, wir, mae lle i fod yn hyderus ynglŷn â’r dyfodol.”
Llais cryf
Mae’r Arglwydd Jones wedi bod yn rhan allweddol o helpu i hyrwyddo amcanion y bartneriaeth dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac mae’n dweud bod gan y Gynghrair waith hollbwysig i’w wneud.
Dywedodd: “Fel partneriaeth, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gryfhau cysylltiadau ac isadeiledd ar draws Swydd Gaer, Cilgwri a Gogledd-ddwyrain Cymru.
“Mae potensial enfawr gan ein heconomi drawsffiniol ni, a thrwy ddenu’r buddsoddiadau cywir, gallwn barhau i gefnogi diwydiannau a swyddi lleol.
“Trwy sicrhau bod llais y rhanbarth i’w glywed, gall Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wneud gwaith allweddol i helpu’r rhanbarth drwy’r cyfnod caled hwn – ac yna mynd ymlaen i lwyddiant hyd yn oed yn fwy.”
Oeddech chi’n gwybod…
- Mae ardal Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri.
- Mae ganddi boblogaeth o bron i filiwn o bobl.
- Mae’n cynhyrchu oddeutu £21.8 biliwn o GVA y flwyddyn, ac mae’n bwysig i economïau Cymru a Lloegr.
- Mae gan yr ardal grynodiad uchel o weithgynhyrchu uwch, a chlystyrau pwysig o ddiwydiannau ynni, awyrofod, modurol, peirianneg, cemegol a phrosesu bwyd, yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol ac ariannol.
- Gyda’r buddsoddiad cywir credir y gall y safleoedd hyn greu hyd at 50,000 o swyddi newydd yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf.
- Mae’r prif gyflogwyr yn cynnwys Airbus, Tata, Toyota, Vauxhall, JCB, Unilever, Cammell Laird, Bank of America, Essar, Encirc ac Iceland Foods.
- Mae 16% o’r gweithlu (65,100 o bobl) wedi’u cyflogi yn y diwydiant gweithgynhyrchu / peirianneg o gymharu a chyfartaledd o 9% ar draws y DU.
- Mae’r bartneriaeth yn ceisio datblygu mwy ar botensial economaidd safleoedd cyflogaeth allweddol ar draws y rhanbarth, sy’n cynnwys Wirral Waters (rhan o Ardal Fenter Dyfroedd Mersi), Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Stad Ddiwydiannol Wrecsam a’r Parc Technoleg, Caer ac Ellesmere Port (rhan o Ardal Fenter Coridor Gwyddoniaeth Swydd Gaer).
- Mae’r canolfannau gwybodaeth yn cynnwys Prifysgol Caer a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Swydd Gaer a Choleg Metropolitan Cilgwri. Mae ymchwil a datblygu hefyd yn nodwedd amlwg mewn llefydd fel Parc Gwyddoniaeth Thornton, Optic Glyndŵr, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru a’r Ganolfan Gwybodaeth Forol.
- Mae’r Gynghrair yn cynnal chwe brecwast busnes y flwyddyn. Maent yn cael eu cyfrif yn rai o ddigwyddiadau rhwydweithio gorau’r ardal ac maent yn aml yn denu 150 o gynrychiolwyr. Bydd y digwyddiad nesaf yn gyfarfod rhithiol / ar-lein ar 30 Mehefin.
www.merseydeealliance.org.uk/cymraeg
YMGEISIWCH RŴAN