Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Dementia Adventure i ddarparu sesiwn hyfforddiant rhad ac am ddim a fydd yn helpu pobl i feddwl yn wahanol am ddementia a’u paratoi drwy ddatblygu hyder a sgiliau newydd.
Darperir y sesiwn hyfforddiant ‘Gwell Dealltwriaeth o Ddementia’ ar-lein yn rhad ac am ddim i deulu a ffrindiau sy’n cefnogi rhywun sy’n byw â dementia. Cynhelir y sesiwn ar-lein rhwng 1.30pm a 3.30pm ddydd Llun, 3 Mehefin.
Mae’r sesiwn anffurfiol yn ymarferol iawn ac yn cynnig strategaethau, awgrymiadau, cyngor ac arweiniad. Datblygwyd y sesiwn yn seiliedig ar genhadaeth Dementia Adventure i feddwl am ddementia mewn ffordd wahanol. Bydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na’r cyflwr, gan ystyried y pethau y maent yn gallu eu gwneud, yn hytrach na’r pethau nad ydynt yn gallu eu gwneud.
“Gall camau bychain syml wneud gwahaniaeth enfawr”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r hyfforddiant am ddim hwn yn gyfle gwych i gwrdd a dysgu mwy gan bobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae Dementia’n effeithio ar bobl a theuluoedd mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond bydd y sesiwn hon yn dangos sut y gall camau bychain syml wneud gwahaniaeth enfawr.”
Gallwch ddisgwyl deall:
- Symptomau cyffredin dementia.
- Effaith dementia ar y synhwyrau, cyfathrebu ac ymddygiad.
- Y pwysigrwydd o weld yr unigolyn cyn y cyflwr.
- Ffyrdd ymarferol o gysylltu gyda rhywun â dementia.
- Strategaethau i oresgyn rhwystrau cyfathrebu.
- Datrysiadau i addasu’r amgylchedd.
- Y buddion o gysylltu gyda natur a’r awyr agored.
Gallwch archebu eich lle ar y sesiwn ar-lein trwy Eventbrite.
Yn yr Hwb Lles
Os yw’n well gennych, gallwch wylio’r sesiwn o’r ystafell hyfforddi yn yr Hwb Lles. Os felly, gofynnwn i chi gyrraedd am tua 1pm er mwyn i chi gael digon o amser i gyrraedd, nôl diod a bod yn barod am y sesiwn. Bydd cyfle hefyd i chi gael sgwrs gyda gofalwyr eraill ar ôl i’r sesiwn ddod i ben, felly mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gadael digon o amser ar gyfer hyn.
I wylio’r sesiwn o’r Hwb Lles, cysylltwch â commisioning@wrexham.gov.uk
Ymunwch â’r Canolbwynt Cyfeillgarwch am ginio picnic mawr ar 6 Mehefin. (wrecsam.gov.uk)