Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen System newydd i’w gwneud yn haws i gael mynediad at wasanaethau cynllunio Cyngor Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > System newydd i’w gwneud yn haws i gael mynediad at wasanaethau cynllunio Cyngor Wrecsam
Y cyngor

System newydd i’w gwneud yn haws i gael mynediad at wasanaethau cynllunio Cyngor Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 15, 2024 1:12 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
The Guildhall, Wrexham
The court hearing followed a detailed investigation by Trading Standards Officers from Wrexham Council’s Public Protection service. Image shows the Guildhall in Wrexham.
RHANNU

Pa un a ydych yn cyflwyno cais cynllunio, ymholiad rheoli adeiladau neu chwiliad Pridiant Tir – bydd ein system TGCh newydd yn gwneud y pethau hyn i gyd yn gyflymach, yn rhwyddach ac yn fwy cyfleus i gwsmeriaid…

Bydd Cyngor Wrecsam yn cyflwyno system TGCh newydd i brosesu ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladau, yn ogystal â chwiliadau Pridiant Tir.

Disgwylir y bydd y system newydd yn mynd yn fyw ar 28 Mai ac y bydd yn caniatáu i dimau Cynllunio, Rheoli Adeiladu a Phridiannau Tir brosesu ceisiadau ac ymholiadau yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr, asiantau, cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd gael mynediad at y gwasanaethau hyn ar-lein.

Fodd bynnag,fe fydd yna gyfnod o darfu ar wasanaethau yn ystod y trawsnewid o’r hen system i’r un newydd a gallai hynny arwain at oedi am gyfnod mewn prosesu ceisiadau ac ymholiadau a gyflwynir ar ôl 13 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio: “Mae’r system newydd hon yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol ein gwasanaethau Cynllunio, Rheoli Adeiladu a Phridiannau Tir.

“Bydd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth sy’n llawer haws i’n cwsmeriaid ei ddefnyddio a hefyd yn ein galluogi ni i ddelio â cheisiadau ac ymholiadau yn llawer mwy effeithiol.

“Efallai y bydd peth oedi wrth i ni symud drosodd i’r system newydd ond dim ond dros dro fydd hyn a bydd y manteision hirdymor i gwsmeriaid a’r cyngor yn aruthrol”.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych eisiau cyngor, cysylltwch â’n Tîm Cynllunio, y Tîm Rheoli Adeiladu neu’r Tîm Pridiannau Tir.

Rhannu
Erthygl flaenorol Dementia Hyfforddiant am ddim – Gwell Dealltwriaeth o Ddementia! (03/06/24)
Erthygl nesaf 60+ Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English