Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hyfforddiant am ddim – Gwell Dealltwriaeth o Ddementia! (03/06/24)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Hyfforddiant am ddim – Gwell Dealltwriaeth o Ddementia! (03/06/24)
Pobl a lle

Hyfforddiant am ddim – Gwell Dealltwriaeth o Ddementia! (03/06/24)

Diweddarwyd diwethaf: Mai 17, 2024 9:36 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Dementia
RHANNU

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Dementia Adventure i ddarparu sesiwn hyfforddiant rhad ac am ddim a fydd yn helpu pobl i feddwl yn wahanol am ddementia a’u paratoi drwy ddatblygu hyder a sgiliau newydd.

Cynnwys
  • “Gall camau bychain syml wneud gwahaniaeth enfawr”
  • Yn yr Hwb Lles

Darperir y sesiwn hyfforddiant ‘Gwell Dealltwriaeth o Ddementia’ ar-lein yn rhad ac am ddim i deulu a ffrindiau sy’n cefnogi rhywun sy’n byw â dementia.  Cynhelir y sesiwn ar-lein rhwng 1.30pm a 3.30pm ddydd Llun, 3 Mehefin.

Mae’r sesiwn anffurfiol yn ymarferol iawn ac yn cynnig strategaethau, awgrymiadau, cyngor ac arweiniad.  Datblygwyd y sesiwn yn seiliedig ar genhadaeth Dementia Adventure i feddwl am ddementia mewn ffordd wahanol.  Bydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na’r cyflwr, gan ystyried y pethau y maent yn gallu eu gwneud, yn hytrach na’r pethau nad ydynt yn gallu eu gwneud.

“Gall camau bychain syml wneud gwahaniaeth enfawr”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:  “Mae’r hyfforddiant am ddim hwn yn gyfle gwych i gwrdd a dysgu mwy gan bobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.  Mae Dementia’n effeithio ar bobl a theuluoedd mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond bydd y sesiwn hon yn dangos sut y gall camau bychain syml wneud gwahaniaeth enfawr.”

Gallwch ddisgwyl deall:

  • Symptomau cyffredin dementia.
  • Effaith dementia ar y synhwyrau, cyfathrebu ac ymddygiad.
  • Y pwysigrwydd o weld yr unigolyn cyn y cyflwr.
  • Ffyrdd ymarferol o gysylltu gyda rhywun â dementia.
  • Strategaethau i oresgyn rhwystrau cyfathrebu.
  • Datrysiadau i addasu’r amgylchedd.
  • Y buddion o gysylltu gyda natur a’r awyr agored.

Gallwch archebu eich lle ar y sesiwn ar-lein trwy Eventbrite.

Yn yr Hwb Lles

Os yw’n well gennych, gallwch wylio’r sesiwn o’r ystafell hyfforddi yn yr Hwb Lles. Os felly, gofynnwn i chi gyrraedd am tua 1pm er mwyn i chi gael digon o amser i gyrraedd, nôl diod a bod yn barod am y sesiwn.  Bydd cyfle hefyd i chi gael sgwrs gyda gofalwyr eraill ar ôl i’r sesiwn ddod i ben, felly mae’n bosibl y byddwch yn dymuno gadael digon o amser ar gyfer hyn.

I wylio’r sesiwn o’r Hwb Lles, cysylltwch â commisioning@wrexham.gov.uk

Hyfforddiant am ddim - Gwell Dealltwriaeth o Ddementia! (03/06/24)

Ymunwch â’r Canolbwynt Cyfeillgarwch am ginio picnic mawr ar 6 Mehefin. (wrecsam.gov.uk)

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED:dementiahyfforddiant
Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Y ddirwy uchaf bosibl i gwmni adeiladu
Erthygl nesaf The Guildhall, Wrexham System newydd i’w gwneud yn haws i gael mynediad at wasanaethau cynllunio Cyngor Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English