Mae Freedom Leisure yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i ymuno â’r tîm llwyddiannus o athrawon nofio yng nghanolfan Byd Dŵr, Wrecsam.

Mae medru’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant llawn.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu manteisio ar hyblygrwydd gwaith rhan amser, ac yn derbyn cyflog o hyd at £16 yr awr!

Os ydych yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac yn unigolyn cymdeithasgar a chyfeillgar, sydd wrth eich bodd yn rhyngweithio â phobl, cysylltwch er mwyn canfod sut i ymuno â’r tîm llwyddiannus o athrawon nofio.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyfle cyffrous hwn, cliciwch ar y ddolen