Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch ‘yr anrheg orau’ i rywun y Nadolig hwn drwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhowch ‘yr anrheg orau’ i rywun y Nadolig hwn drwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru
Arall

Rhowch ‘yr anrheg orau’ i rywun y Nadolig hwn drwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 7, 2022 12:24 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Welsh Blood Service
RHANNU

Erthyl Gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae mam newydd a gafodd drallwysiad gwaed a achubodd ei bywyd yn ystod genedigaeth, yn annog cymunedau ar draws Cymru i roi’r ‘rhodd orau’ y Nadolig hwn, trwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Profodd Stacey Fordham Gray, cyn-roddwr gwaed ei hun, gymhlethdodau yn ystod genedigaeth ei merch Millie, a chafodd drallwysiad gwaed a achubodd ei bywyd.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Meddai Stacey, “Fel y rhan fwyaf o famau sydd yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf, roeddwn wedi disgwyl i fy stori gael ei llenwi â thechnegau anadlu a goleuadau meddal, nid un lle y buaswn i angen tîm o ddoctoriaid a nyrsys.

“Ar ôl cael trallwysiad gwaed, dydw i ddim yn gallu rhoi gwaed fy hun rhagor, ond byddaf yn parhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy rannu fy stori. Gobeithio y bydd hyn yn helpu mwy o bobl i ddeall y gwahaniaeth mae’n ei wneud, a pham y dylen nhw roi gwaed eu hunain.

“Heb haelioni rhoddwyr, fuaswn i ddim wedi bod yma i ddathlu pen-blwydd cyntaf Millie. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r dieithryn llwyr hwnnw a roddodd eu gwaed ac a achubodd fy mywyd.”

Cafodd ymrwymiad Stacey i Wasanaeth Gwaed Cymru ei gryfhau ymhellach ar ôl i’w thad gael diagnosis o ganser bedair wythnos yn unig ar ôl ei cherdded i lawr yr eil. Aeth Stacey i bob apwyntiad yng Nghanolfan Ganser Felindre gyda’i thad, ond dirywiodd ei gyflwr a phum mis yn ddiweddarach, bu farw.

Dywedodd Stacey, “Ar ôl colli fy nhad i ganser, fe nes i barhau i roi gwaed nes fy mod i ei angen fy hun. Er nad ydw i’n gallu rhoi gwaed rhagor, rydw i ar Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru o hyd, ac yn obeithiol y gallaf fod y dieithryn hwnnw hefyd, drwy roi mêr fy esgyrn ar gyfer rhywun sy’n ymladd canser y gwaed.”

Bob blwyddyn, mae dros 2,000 o bobl yn y DU a 50,000 o bobl ar draws y byd yn cael eu diagnosio gyda chanser y gwaed, ac sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn i achub eu bywydau. Ar hyn o bryd, dim ond saith o bob deg claf ar draws y DU sy’n dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, “I gleifion sydd angen gwaed, fel yr oedd Stacey, rhodd fydd ‘yr anrheg orau’ maen nhw’n ei derbyn.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru bellach yn paratoi i wynebu pwysau’r gaeaf, ac yn gobeithio y bydd ei ymgyrch Nadolig, sef ‘yr anrheg orau’, yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed, platennau a mêr esgyrn yn ei wneud. Mae’r Gwasanaeth yn darparu gwaed a chynnyrch gwaed sy’n achub bywydau i 20 o ysbytai ar draws Cymru a phedair awyren Ambiwlans Awyr Cymru i’w defnyddio mewn argyfwng. Mae’n recriwtio ac yn cefnogi gwirfoddolwyr mêr esgyrn sy’n cydweddu â chleifion canser hefyd, wrth iddynt roi mêr esgyrn a allai achub bywydau.

Aeth Alan ymlaen i ddweud, “Mae gan waed a chynnyrch gwaed oes silff gymharol fyr, felly mae ysbytai eu hangen yn gyson, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau banc fel y Nadolig a Dydd Calan, i helpu i gefnogi cleifion ac i achub bywydau ledled Cymru.

“Mae’n hanfodol bod y Gwasanaeth wedi ei baratoi, felly rydyn ni’n estyn allan at ein cymunedau ar draws Cymru i ofyn iddyn nhw roi rhodd a allai achub bywydau y Nadolig hwn a thros gyfnod y Gaeaf, neu gofrestru i fod ar ein cofrestr mêr esgyrn.”

Gwnewch rywbeth anhygoel yn ystod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eleni. Rhowch yr anrheg orau i rywun, rhowch waed ac, os ydych chi rhwng 17-30 oed, ymunwch â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru naill ai pan fyddwch yn rhoi gwaed neu drwy ofyn am becyn swab ar-lein.

Os ydych chi’n 17 oed neu’n hŷn, gwnewch apwyntiad i roi gwaed yn: www.wbs.cymru/Xmas22 neu ffoniwch 0800 252 266 heddiw.

Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, gallwch gael gwybod sut y gallwch ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru drwy fynd i’r wefan www.wbs.wales/bmrxmas22.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol DIWRNOD HAWLIAU’R GYMRAEG: DATHLU’R ‘NEWID BYD’ YM MHROFIADAU SIARADWYR CYMRAEG DIWRNOD HAWLIAU’R GYMRAEG: DATHLU’R ‘NEWID BYD’ YM MHROFIADAU SIARADWYR CYMRAEG
Erthygl nesaf Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English