High temperature

Gwres uchel, dolur gwddf, brech, poenau cyhyrau difrifol, cochni o amgylch clwyf

Mae’n debyg eich bod wedi gweld yr adroddiadau ar y cyfryngau cenedlaethol yr wythnos hon ynglŷn ag Afiechyd Streptococol Grŵp A ymledol (IGAS) – a elwir hefyd yn ‘Strep A.’

Bu nifer o achosion difrifol yn y DU yn cynnwys plant ifanc, ac anogir rhieni ac ysgolion i edrych am symptomau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o haint mewn plant sy’n mynd yn sâl â thymheredd, dolur gwddf neu frech.
  • Cynghorir rhieni plant sy’n sâl i gael cyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
  • Dylai unrhyw un sydd â’r dwymyn goch beidio â mynychu’r ysgol am 24 awr ar ôl i’r driniaeth wrthfiotig briodol ddechrau.
  • Gall hylendid dwylo da ac osgoi lledaenu diferion anadlol (fel gyda’r ffliw – “ei ddal, ei daflu, ei ddifa”) helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

Arwyddion a symptomau o’r dwymyn goch

Weithiau gall Strep A achosi y dwymyn goch.

Mae’n hynod heintus a gellir ei ddal drwy gyswllt uniongyrchol â rhywun sydd wedi’i heintio neu drwy’r aer drwy ddefnynnau o besychiadau neu disian.

Prif symptom y dwymyn goch yw brech binc-goch fân sydd i’w theimlo fel papur llyfnu i’w chyffwrdd.

Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb coch a thafod coch chwyddedig.

Mae’r driniaeth yn syml ac fel arfer yn golygu cwrs o wrthfiotigau penisilin.

Cymhlethdodau’r dwymyn goch a haint streptooccal

Ni fydd y rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi cymhlethdodau, yn enwedig os caiff y cyflwr ei drin yn briodol.

Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yng nghyfnod cynnar y clefyd achosi haint yn y glust, casgliad yn y gwddw, sinusitis, niwmonia a llid yr ymennydd.

Mae cymhlethdodau prin iawn yn cynnwys twymyn y gwynegon, niwed i’r arennau, haint yr esgyrn, gwenwyniad gwaed a syndrom sioc tocsig a allai beryglu bywyd.

Mae arwyddion cynnar o haint ymledol yn cynnwys:

  • Gwres uchel.
  • Poenau cyhyrau difrifol.
  • Tynerwch cyhyrau lleol.
  • Cochni ger clwyf.

Os oes gennych unrhyw bryderon am haint ymledol, yna rhaid ceisio cyngor meddygol ar frys.

Y cyngor i rieni yw:

  • Cysylltwch â’ch meddyg teulu, ewch i 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a roddir gan y meddyg.
  • Cadwch eich plentyn gartref, i ffwrdd o’r feithrinfa, ysgol neu waith a dilyn unrhyw ganllawiau a roddwyd gan eich meddyg teulu ar ba mor hir y dylent aros i ffwrdd o’r lleoliadau hyn.
  • Mae gwybodaeth a chyngor diweddaraf ar heintiau streptococcal A ar 111.wales.nhs.uk