Rhowch ‘sgamiau a thwyll’ yn Google a bydd bron i 74 miliwn o chwiliadau yn ymddangos. Mae’r pwnc yn tyfu bob dydd yn arbennig gan fod troseddwyr yn newid eu twyll i hwyluso dioddefwr penodol. Yma yn Wrecsam, nid ydym yn wahanol i rannau eraill o’r wlad – rydym yn dioddef troseddau twyll gan droseddwyr mewn un ffordd neu’r llall.
Ond, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn credu mewn gwella diogelwch i aelodau ei gymuned ac wedi ymgysylltu â chymorth gan dîm i weithio mewn partneriaeth gyda’ch Swyddogion Safonau Masnach leol a’ch Heddlu lleol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Caiff Operation REPEAT (Reinforce Elderly Persons Education at All Times) ei ddarparu fel rhaglen strwythuredig o sesiynau hyfforddi i staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithwyr cefnogi, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, sydd â chysylltiad unigol yn rheolaidd gydag aelodau o’r gymuned leol sydd yn agored i drosedd ar stepen drws a sgamiau
Gweithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r bobl orau i fonitro’r rheiny sydd mewn risg, gan fod ymchwil yn awgrymu bod 80% o ddioddefwyr yn derbyn gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn barod.
Bydd nifer o sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal yr wythnos hon yma yn Wrecsam i gyflenwi cymunedau tref a gwledig. Gan weithio gyda’n Safonau Masnach a Heddlu, bydd Operation REPEAT yn ymgysylltu â’n Sefydliadau Gofal i alluogi staff fod mewn sefyllfa i gefnogi a diogelu yn well ein pobl ddiamddiffyn hŷn rhag trosedd ar stepen drws a thwyll.
Yn hanesyddol, roedd atal trosedd ar stepen y drws a thwyll yn cael eu cyfarwyddo gan y dioddefwyr eu hunain, gyda’r Heddlu a sefydliadau eraill yn defnyddio taflenni a chyfarfod i roi cyngor i bobl hŷn a phobl diamddiffyn. Yn anfoddus, nid yw taflenni yn cael eu defnyddio ac mae’r rheiny sydd eisiau’r neges o bosib heb y gallu i gofio beth dywedwyd wrthynt y diwrnod blaenorol.
Prif nod Operation REPEAT yw caniatáu prif negeseuon i gleientiaid diamddiffyn i gael eu pwysleisio yn barhaus yn ddyddiol neu’n wythnosol gan staff y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Drwy ddefnyddio’r gweithlu cymunedol presennol i ddarparu’r cyngor hwn, mae ymwybyddiaeth gynyddol o’r troseddau hyn o fewn y gymuned, a dull wedi’i dargedu yn fwy i’w hatal.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant, cysylltwch â info@oprepeat.co.uk neu Sarah.Andrew@wrexham.gov.uk
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH