Nid oes arnoch angen barf wen i wneud y swydd hon (gallwn ni sortio hynny)… ond mi fydd arnoch angen bod yn barod i ledaenu hwyl yr ŵyl!
Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg hyderus a charismatig sy’n awyddus i danio ysbryd yr ŵyl i weithio fel Siôn Corn yn ein groto Nadolig eleni.
Mae hon yn swydd werthfawr iawn i’r unigolyn cywir… a fydd yn rhoi gwên ar wynebau nifer o blant bychain!
Ystyriwch y peth… be gewch chi’n well na helpu plant a theuluoedd i ymgolli yn hud y Nadolig?
Rydym hefyd yn chwilio am rywun i helpu Siôn Corn. Eto, nid oes arnoch chi angen clustiau corrach (gallwn sortio hynny hefyd), ond bydd arnoch angen bod yn barod i ledaenu hwyl yr ŵyl.
Bydd y ddwy swydd wedi’u lleoli yng nghanol y dref yn Wrecsam, gan ddechrau ym mis Tachwedd.
Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth…
GWNEWCH GAIS RŴAN (SIÔN CORN)
GWNEWCH GAIS RŴAN (GWAS SIÔN CORN)