Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hysbysiad Gwella wedi’i gyflwyno i dafarn yn Wrecsam yn sgil clwstwr coronafeirws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Hysbysiad Gwella wedi’i gyflwyno i dafarn yn Wrecsam yn sgil clwstwr coronafeirws
Y cyngor

Hysbysiad Gwella wedi’i gyflwyno i dafarn yn Wrecsam yn sgil clwstwr coronafeirws

Diweddarwyd diwethaf: Awst 25, 2020 3:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Bar
RHANNU

Ar ôl nodi nifer bach o achosion sy’n gysylltiedig â staff tafarn y North and South Wales Bank yn Wrecsam, mae Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno Hysbysiad Gwella i’r safle.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol ar gyfer Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Er bod mesurau i gadw pellter cymdeithasol yn eu lle ac yn cael eu cynnal yn gyffredinol pan oedd staff yn delio â chwsmeriaid, mae ein hymchwiliad wedi dangos bod diffyg cydymffurfio â’r canllawiau mewn ardaloedd staff.

“Gwnaethom gyflwyno’r hysbysiad hwn er mwyn diogelu’r cyhoedd. Rhaid i bob sefydliad ddilyn y rheolau er mwyn helpu i gadw Wrecsam yn ddiogel.”

Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailadrodd ei alwad i gwsmeriaid tafarn y North and South Wales Bank yn Wrecsam i fod yn wyliadwrus am symptomau coronafeirws (COVID-19).

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod yr achosion positif sydd wedi’u nodi yn y digwyddiad hwn wedi bod ymhlith y staff, ac ymddengys fod rhyngweithio rhwng y staff a chwsmeriaid wedi dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol ar y cyfan, mae risg fach o hyd y gellid effeithio ar gwsmeriaid.

“Mae cysylltiadau uniongyrchol y rhai sydd wedi profi’n bositif wedi’u nodi a chysylltwyd â nhw.  Dylai unrhyw un a oedd yn y dafarn rhwng 9 a 20 Awst 2020 ac sy’n datblygu hyd yn oed symptomau ysgafn fynd ati ar unwaith i hunanynysu a chael prawf.

“Gellir cael prawf coronafeirws am ddim ac mae’n syml i’w wneud, naill ai drwy fynd i www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio’r rhif am ddim 119.

“Gellir gwneud prawf gartref gyda phecyn am ddim, neu drwy fynd i ganolfan brofi leol.”

“Mae nodi’r achosion hyn yn dystiolaeth bod y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio, ac nid oes achos wedi’i ddatgan.

“Wrth i ni symud drwy gam adfer pandemig y Coronafeirws, rydym yn disgwyl gweld clystyrau mewn gwahanol leoliadau.  Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o’r Coronafeirws yn briodol, gan gynnwys drwy roi cyngor ynghylch atal a rheoli heintiau, a thrwy gynorthwyo’r broses o olrhain cysylltiadau lle y bo angen.

“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a pherchnogion busnes bod Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned.  Mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae wrth atal Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol – sef aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill – a golchi dwylo’n rheolaidd.”

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Senedd yr Ifanc needs young people’s opinions on ‘Our Environment’ Mae Senedd yr Ifanc eisiau gwybod barn pobl ifanc am ‘Ein Hamgylchedd’
Erthygl nesaf Dogs on Lead Nodyn i’ch atgoffa y dylai cŵn fod ar dennyn bob amser

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Arall Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English