Rydym yn ymwybodol bod plentyndod a llencyndod yn gyfnod anodd iawn, yn enwedig ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.
Yn draddodiadol, maent yn cael eu disgrifio fel “blynyddoedd gorau’ch bywyd”, felly nid oes disgwyl iddynt gynnwys problemau.
Fodd bynnag, mae’r elusen iechyd meddwl Young Minds yn amcangyfrif bod gan tri plentyn ymhob ystafell ddosbarth ar draws y wlad gyflwr iechyd meddwl diagnosadwy.
Felly, mae’n hanfodol bod gan bobl ifanc rywle i fynd gyda chlust i wrando, a thrafod pethau sydd efallai’n effeithio ar eu bywydau bob dydd gyda gweithwyr proffesiynol gofalgar, sy’n barod i wrando.
Ac mae ein tîm yma i helpu.
Cwnsela Outside In
Mae ein tîm cwnsela pobl ifanc, Outside In, yn gweithio ar draws Wrecsam, gyda darpariaeth gwasanaethau mewn wyth ysgol gynradd, a phob ysgol uwchradd, yn ogystal â’r Siop Wybodaeth ar Stryt y Lampint.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein tîm wedi helpu bron i 1,000 o bobl ifanc, gan gynnig cefnogaeth, cyngor a chlust cyfrinachol, heb farn i wrando, pan mae arnynt wir ei angen.
Mae’r tîm yn cynnwys cwnselwyr profiadol, sydd i gyd yn gallu teilwra eu sesiynau yn ôl dymuniadau ac anghenion yr unigolyn.
Mae modd i staff yr ysgol, y disgyblion eu hunain, rhieni, nyrsys yr ysgol ac eraill atgyfeirio’r bobl ifanc at gwnselwyr.
Mae pob person ifanc yn derbyn dull unigol o gyflawni eu hamcanion, a allai eu helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, gwaith arbennig ar fagu hyder a hunan-barch, ymdrin â’u hemosiynau gan gynnwys dicter, bwlio a/neu hunan-niweidio.
Mae cwnsela yn eithriadol o bwysig oherwydd mae angen gofalu am ein hunain yn feddyliol ac yn gorfforol. Gall gwnsela gefnogi pobl ifanc gyda meysydd sy’n cynnwys addysg, hyfforddiant, gwaith, perthnasau a llawer mwy efallai nad ydynt yn teimlo’n hyderus siarad gydag unrhyw un arall yn eu cylch, megis materion LGTB, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywioldeb, materion teuluol a phryder.
Os ydych chi’n berson ifanc sy’n teimlo y byddech yn elwa o sesiynau cwnsela, cysylltwch â Outside In ar 01978 295 600.
Dathlu Degawd
Yn gynharach yn y mis, estynnwyd croeso i gwnselwyr pobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru i ddathliad yn Nyfroedd Alun, i nodi 10 mlynedd o gwnsela mewn ysgolion. Ym mis Ebrill 2008, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Strategaeth Genedlaethol i Ysgolion yn seiliedig ar wasanaethau cwnsela a nodi ymrwymiad y byddai gan pob disgybl ysgol yng Nghymru fynediad i gwnsela.
Yn ystod diwrnod y dathliad, rhannodd y timau eu profiadau ar sut maent wedi mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl, y dull o greu amgylcheddau cadarnhaol o leihau gofid emosiynol, a sut i addysgu pobl ifanc wrth drafod eu hanghenion emosiynol.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae tîm Outside In yn gwneud gwaith anhygoel i ddarparu lleoliad cyfrinachol, llawn cysur i bobl ifanc i drafod ystod eang o faterion a all fod yn achosi cyflyrau iechyd meddwl, neu broblemau eraill yn eu bywydau bob dydd.
“Dylai unrhyw berson ifanc sy’n credu y byddant yn elwa o sesiynau cwnsela gysylltu â ni – nid oes angen iddynt aros yn dawel na theimlo’n unig.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I