Mae siop gyfleustra Rhiwabon wedi cael gorchymyn i gau am dri mis yn dilyn camau gan wasanaeth diogelu’r cyhoedd Cyngor Wrecsam gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Gwnaed y gorchymyn cau, a osodwyd gan Ynadon Wrecsam, yn erbyn Kalar Mini Market, 4 Stryd Fawr Newydd, Rhiwabon.
Fe’i dyfarnwyd yn dilyn cais i’r llys gan swyddogion safonau masnach a nododd achosion lu o werthu sigaréts a ffugaréts anghyfreithlon dros y misoedd diwethaf, ac fe’u hatafaelwyd.
Mae’r gorchymyn yn golygu bod y safle wedi’i gau a’i gloi a bydd yn aros felly tan 29 Ebrill 2025.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’r cynnydd cyflym yn nefnydd ffugaréts gan bobl nad ydynt erioed wedi ysmygu a’u defnydd gan blant yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen tuag at ddeddfwriaeth newydd yn ddiweddarach eleni a fydd yn helpu i reoli’r cyflenwad o ffugaréts a thybaco anghyfreithlon a chefnogi cynnydd tuag at amcan Llywodraeth Cymru o Gymru ddi-fwg. erbyn 2030.
“Mae gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymuned yn peri pryder arbennig ac ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio’r pwerau cyfreithiol sydd gennym i ddiogelu iechyd a lles ein pobl ifanc. Mae sigaréts a thybaco rholio rhad, sydd ar gael yn hawdd yn ei gwneud hi’n haws i blant gael ddod yn gaeth hyd eu hoes i gynnyrch marwol ac yn anoddach i ysmygwyr sy’n oedolion roi’r gorau iddi. Mae ffugaréts tafladwy rhad hefyd yn peri risg i iechyd plant nad ydynt yn ysmygu ac mae’r nifer fawr ohonynt sy’n cael eu taflu yn achosi problemau amgylcheddol mawr ac wedi achosi nifer o danau yn y diwydiant gwastraff.
“Rwy’n croesawu canlyniad y weithred hon gyda’r effaith ymarferol iawn o gau’r safle am gyfnod sylweddol o amser.
“Mae’r tarfu hwn nid yn unig yn effeithio ar berchennog y busnes ond hefyd ar berchennog yr eiddo na fydd yn gallu defnyddio na rhentu’r safle at unrhyw ddiben am y tri mis nesaf.
“Os ydych yn landlord neu’n asiant eiddo gyda thenantiaid sy’n torri’r gyfraith fel hyn, byddwch yn ymwybodol y gellir cymryd camau tebyg gan arwain at golli defnydd o’r safle drwy orchymyn y Llys.”