Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio anystyriol ac anghyfreithlon yn anghyfrifol a pheryglus!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Parcio anystyriol ac anghyfreithlon yn anghyfrifol a pheryglus!
Y cyngor

Parcio anystyriol ac anghyfreithlon yn anghyfrifol a pheryglus!

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 5:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Irresponsible parking outside Wrexham school
RHANNU

Unwaith eto mae’n rhaid i ni atgoffa rhieni a gofalwyr i fod yn ymwybodol o reolau’r ffordd fawr wrth ollwng a chasglu eu plant o’r ysgol er mwyn osgoi dirwy gan un o’n swyddogion gorfodi neu swyddogion yr heddlu sy’n cerdded heibio’r ysgolion yn rheolaidd.

Mae hyn yn dilyn damwain a fu bron â digwydd ger ysgol leol oherwydd parcio anystyriol ac anghyfreithlon.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am orfodi parcio, “Mae parcio yn ystod amseroedd gollwng a chasglu yn broblem mewn sawl ardal ac rwy’n gwybod y bydd swyddogion yn cymryd camau gorfodi pan fyddant yn gweld rhywun yn parcio’n anghyfrifol.  Y tu allan i ysgolion mae llinellau igam-ogam amlwg a llinellau melyn dwbl yn aml – mae’n anghyfreithlon parcio ar y rhain a gallai gwneud hynny, am bum munud hyd yn oed, arwain at ddirwy gan y Cyngor neu’r Heddlu, ond yn waeth na hynny fe allech beryglu bywyd plentyn a does neb eisiau bod yn gyfrifol am hynny.  Parciwch yn gyfreithlon”.

Meddai’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, gyda chyfrifoldeb am ddiogelwch ar y ffordd, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae parcio mewn ardaloedd dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg yn anystyriol ac anghyfreithlon ond mae hefyd yn anghyfrifol a pheryglus.  Maent yno i sicrhau y gall plant groesi’n ddiogel.  Mae parcio ar balmentydd a rhwystro mynediad i breswylwyr yn hunanol ac anghyfrifol a byddwn yn cymryd camau priodol yn erbyn unrhyw droseddwyr.”

“Mae’n rhaid i rieni a gofalwyr sicrhau eu bod yn parcio eu ceir yn gyfreithlon bob amser ac os yw’n anodd dod o hyd i le parcio, dylid parcio ymhellach i ffwrdd.”

Dywedodd yr Arolygydd Luke Hughes:  “Mae parcio’n anghyfrifol y tu allan i ysgolion yn ei gwneud yn anodd gweld plant wrth iddynt groesi’r ffordd, gan olygu bod mwy o siawns y byddant yn cael eu niweidio.

“Ar rai achlysuron mae’n ofynnol bod pobl yn parcio mor agos at yr ysgol â phosibl, er enghraifft os oes ganddynt broblemau symudedd.  Ond mae nifer, os nad y mwyafrif, yn ddiog ac yn blaenoriaethu eu cyfleustra eu hunain dros les y plant.

“Parciwch yn ystyriol a rhowch y gorau i fod yn hunanol.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Flying Start Wrexham Lleoedd gofal plant wedi’u hariannu i blant dwy oed
Erthygl nesaf Dementia Wrexham Dangos ffilm i annog sgyrsiau gwell am ddementia

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English