Oeddech chi’n gwybod y bydd pob llinell dir yn y DU yn ddigidol erbyn 2025?
Os hoffech chi ddysgu mwy ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi neu os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, yna ewch draw i ganolfan Tŷ Pawb ar 18 Ebrill, rhwng 10am a 3pm. Fe fydd BT yno i ateb eich cwestiynau am Digital Voice newydd.
Er nad yw’r llinell dir yn diflannu, mae BT yn gwybod yr hoffai llawer ohonom wybod mwy am y newid yma ar draws y diwydiant a pham fod angen y newid.
Nid oes rhaid i chi archebu ymlaen llaw, galwch draw.
Newid i Ddigidol – Beth am gwsmeriaid sydd ag anghenion ychwanegol?
I ddechrau, ni fydd BT yn newid y cwsmeriaid drosodd pan fyddant yn gwybod bod gan gwsmeriaid anghenion ychwanegol megis:
- y rhai sydd â chortyn gwddf gofal iechyd
- y rhai sydd ond yn defnyddio llinell dir
- y rhai sydd heb signal ffôn symudol
- y rhai sydd wedi nodi unrhyw anghenion ychwanegol
Byddant yn treulio amser ychwanegol ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid sydd dros 70 oed ac sy’n barod ar gyfer y newid.
Ar gyfer mwyafrif y cwsmeriaid, bydd y newid i Digital Voice mor syml â chysylltu ffôn eu cartref gyda llwybrydd yn hytrach na soced ffôn ar y wal.
I gael rhagor o wybodaeth neu os na allwch chi alw draw ar y diwrnod, ewch i www.bt.com/digitalvoice
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.