Mae prosiect Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty wedi derbyn gwobr Dangos Rhagoriaeth mewn Cynllunio a Darparu mewn Partneriaeth ar lefel ryngwladol/genedlaethol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn ddiweddar.
Mae’r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ifanc a’r sawl sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ar draws Cymru.
Mae Inspire yn cefnogi pobl ifanc yn Ysbyty Maelor Wrecsam a hefyd yn y gymuned. Mae’n dîm aml-ddisgyblaethol o weithwyr ifanc a seicolegwyr cynorthwyol sy’n gweithio’n gyfannol ochr yn ochr â phobl ifanc i’w helpu i gyflawni eu hamcanion.
Maent yn cefnogi pobl ifanc 11-18 oed yn byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint sy’n ymwneud ag ymddygiad hunan-niweidio, neu’n cael profiad o feddwl am hunan-niweidio neu hunanladdiad. Mae’r tîm yn darparu cefnogaeth un i un i bobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i’r prosiect, ymweliadau dyddiol ar ward i bobl ifanc ar y ward plant am unrhyw reswm yn darparu sesiynau addysg anffurfiol i ysgolion a grwpiau ieuenctid o amgylch iechyd a lles emosiynol a hefyd yn cynnal grwpiau a chlwb ieuenctid sydd wedi cael cefnogaeth gan Inspire.
Mae Inspire yn brosiect partneriaeth rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’n anelu i roi grym a hybu annibyniaeth a hyder pob person ifanc tra’n cynyddu strategaethau ymdopi cadarnhaol a gwytnwch. Mae’n edrych ar fynd i’r afael â’r rhesymau pam bod person ifanc yn hunan-niweidio yn hytrach na delio gyda’r ymddygiad ei hun yn unig.
Mae eu gwaith un i un yn cynnwys ymgysylltu gwirfoddol o tua 8 sesiwn unigol mewn lleoliadau o ddewis y person ifanc, yn canolbwyntio ar beth hoffai pob person ifanc ei gyflawni a beth maent yn deimlo fyddai’n eu helpu ar y pryd.
Dywedodd y Cyng Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Llongyfarchiadau i’r tîm am dderbyn y wobr hon a chydnabyddiaeth o ragoriaeth genedlaethol. Mae’r gwasanaeth maent yn ei gynnig i bobl ifanc yn amhrisiadwy ac rwy’n gwybod bod eu hymrwymiad i helpu pobl ifanc gyflawni eu hamcanion a’u huchelgeisiau yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol.”
Cynhaliwyd y gwobrau yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD