Mae’r broses recriwtio ar gyfer Bwrdd Dros Dro Dinas Diwylliant Wrecsam bellach wedi’i gwblhau, gyda unigolion yn cael eu penodi i’r Bwrdd gyda’r nod i wneud penderfyniadau allweddol, datblygu strategaethau a llywio cyfeiriad a naratif ymgyrch Dinas Diwylliant Wrecsam2029.
Cystadleuaeth a gynhelir bob pedair blynedd gan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant a Chwaraeon (DCMS) yw ‘Dinas Diwylliant y DU’, lle dyfarnwyd y teitl ‘Dinas Diwylliant y DU’ i ddinas, tref neu ranbarth o fewn y DU am gyfnod o un flwyddyn galendr, pan fydd y cynigydd llwyddiannus yn cynnal dathliadau diwylliannol drwy adfywio a arweinir gan ddiwylliant am y flwyddyn.
Pwrpas y gystadleuaeth yw defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y gymuned ac mae ganddo fanteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i’r ardal.
Y llynedd fe gyrhaeddodd Wrecsam y camau olaf yn y gystadleuaeth gan ddod yn ail i Bradford a fydd yn croesawu Dinas Diwylliant 2025.
Ar ôl gweld y manteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd wrth gystadlu ac ennill y teitl hwn, cytunwyd y byddai Wrecsam yn rhedeg eto yn 2029.
Un o’r prif amcanion ar gyfer camau cynnar y cais nesaf oedd sefydlu Bwrdd Dros Dro i oruchwylio a llywio’r gwaith ar gyfer ymgyrch Dinas Diwylliant Wrecsam o ddechrau 2023 hyd at sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol Ddiwylliannol newydd a ragwelwyd yn gynnar yn 2024.
Bydd stiwardiaeth, syniadau a phenderfyniadau’r Bwrdd Dros Dro yn helpu i godi’r uchelgeisiau ar yr hyn y gellir ei gyflawni fel cymuned, ac rydym yn bwriadu recriwtio unigolion sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol yn y meysydd canlynol:
- Y Celfyddydau a Diwylliant
- Unigolion gyda Chysylltiadau Rhyngwladol
- Busnes, Diwydiant, Lletygarwch a Thwristiaeth
- Addysg a Sgiliau
- Cyrff cyhoeddus
- Gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Dinas Diwylliant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o’r nifer, safon, brwdfrydedd a phrofiad yr ymgeiswyr i helpu i lywio cais Wrecsam2029 i fynediad buddugol llwyddiannus. Mae gan lawer o’r aelodau penodedig broffiliau uchel ledled Cymru a thu hwnt, ac, yn bwysicaf oll o fewn ein cymuned yn Wrecsam. Daethon ni mor agos at ennill y tro diwethaf ac mae gen i bob hyder y byddwn yn cynnal Dinas Diwylliant 2029.”
Ar ôl cyfnod cychwynnol o fynegi diddordeb ac yna cyfweliadau, rydym yn falch iawn o gyhoeddi aelodaeth y Bwrdd:
Joanna Swash (Cadeirydd)
Yn fam, arweinydd busnes lleol, llywodraethwr ac aelod diweddar o Gyngor Busnes y Prif Weinidog, Joanna Swash yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Moneypenny, sydd wedi tyfu ac ehangu’n fyd-eang, yn seiliedig ar ddiwylliant arobryn unigryw, gan osod pobl a thechnoleg wrth galon popeth. Mae Moneypenny yn ateb galwadau allanol a sgyrsiau byw i fusnesau o bob lliw a llun.
Richard Nicholls
Mae gan Richard 25 mlynedd o brofiad o gyllido yn y sectorau celfyddydau, treftadaeth ac addysg. Fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’n arwain y tîm Gwasanaethau Buddsoddi ac Ariannu sy’n dosbarthu £40 miliwn o gyllid celfyddydol blynyddol. Mae rolau blaenorol wedi cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu, Amgueddfa Cymru, a Dirprwy Bennaeth Datblygu Prifysgol Lerpwl.
Yr Athro Uzo Iwobi
Yr Athro Uzo Iwobi CBE yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru, cyn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb a chyn-gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Uzo yw sylfaenydd y Fforwm Polisi Bywydau Du o Bwys Cymru, sef ymgyrch ZeroRacismWales, sylfaenydd Fforwm Cenedlaethol Ieuenctid Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru ac un o sylfaenwyr Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae hi’n arwain rhaglenni Hanes Pobl Dduon Cymru ac mae wedi gweithio gyda Thŷ Pawb i sefydlu’r Hwb Amlddiwylliannol yn Wrecsam – y cyntaf o’i fath.
Dawn Roberts-McCabe
Mae Dawn yn Brif Swyddog ar gyfer Cymdeithas y Mudiadau Gwirfoddol yn Wrecsam (AVOW), a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn Gyngor Gwirfoddol Sirol, sy’n cynrychioli diddordebau’r trydydd sector ar draws y Sir. Mae Dawn yn dod â phrofiad ac arweinyddiaeth helaeth nid yn unig yn ei rôl bresennol ond o’i chyn-yrfa fel diplomydd i Wasanaeth Tramor yr Unol Daleithiau.
Mike Corcoran
Wedi byw yn Wrecsam gydol oes, ers dros ddegawd, mae Mike wedi gweithio i gefnogi datblygiad diwylliannol y rhanbarth, gan gynnal swyddi llywodraethu a chynghori gwirfoddol gyda sefydliadau a mentrau sy’n cynnwys FOCUS Wales, Undegun a Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam ymhlith nifer o rai eraill, ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr i NEW Sinfonia. Fel Ymchwilydd sy’n Ymweld yn y Gyfadran Gelf, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ochr yn ochr â’i waith fel ymgynghorydd annibynnol, mae Mike yn arbenigo mewn arferion ymgysylltu creadigol, gwerthuso cyfranogol a chyd-gynhyrchu, hudo lleisiau dinasyddion a sicrhau bod gwerth pob person yn cael ei gydnabod. Y tu allan i Wrecsam, mae wedi gweithio gyda sefydliadau o bob lliw a llun, o fusnesau newydd i lywodraethau, ar draws y DU, a chyn belled i ffwrdd â China, Awstralia ac UDA.
Neal Thompson
Mae Neal yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ymgynghorydd llawrydd sydd wedi gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw am yr ugain mlynedd diwethaf. Ef yw cyfarwyddwr artistig Gŵyl ‘Fringe’ Llangollen ac mae’n gyd-sylfaenydd FOCUS Wales, gŵyl a chynhadledd ryngwladol flynyddol, a gynhelir yn Wrecsam, Cymru. Bellach yn ei ddeuddegfed flwyddyn, mae FOCUS Wales yn cynnal dros 250 o actau byw a 400+ o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth o bob cwr o’r byd, ac yn croesawu 20,000 o bobl at ganol y ddinas, bob blwyddyn. Mae Neal yn eiriolwr dros y celfyddydau ac mae hefyd yn un o sylfaenwyr Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru a sefydlwyd yn 2020 er mwyn cynrychioli buddiannau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau diwylliannol, yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
Graham Williams
Mae Graham yn Gyfarwyddwr gyda Chwaraeon Cymru, yr asiantaeth genedlaethol sy’n gyfrifol am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae’r cyfrifoldebau gwaith presennol yn cynnwys datblygu strategaethau i gefnogi cymunedau i fod yn weithgar drwy chwaraeon. Mae hefyd yn gyfrifol am ystod eang o feysydd gwasanaeth gan gynnwys digidol a chyfathrebu, ymchwil, polisi, materion cyhoeddus a grantiau cymunedol. Mae Graham yn byw gyda’i deulu yn ardal Wrecsam.
Devinda de Silva
Mae Devinda yn gyn-gyfarwyddwr Cydweithio Theatr Genedlaethol Cymru ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Is-gadeirydd dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru, lle mae’n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, ac mae’n aelod o Grŵp Llywio Cyffredinol Llywodraethau Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru. Yn ogystal, mae Devinda yn aelod o Fwrdd Celfyddydau Anabledd Cymru ac mae’n dal rolau cynghori yn Counterpoint Arts, The Baring Foundation a The Gulbenkian Foundation ymysg eraill. Mae Devinda wedi gweithio’n helaeth yn Wrecsam dros yr wyth mlynedd diwethaf, gan arwain at A Proper Ordinary Miracle ym mis Tachwedd 2022, darn o theatr a grëwyd ar y cyd.
Gwennan Mair Jones
Gwennan Mair yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd ac mae’n Hwylusydd Drama Hyfforddedig a Chyfarwyddwr. Daeth angerdd Gwennan at y celfyddydau ac ymgysylltu cymunedol yn ifanc gan dyfu i fyny yn Llan Ffestiniog. Cymuned a hygyrchedd sydd wrth wraidd holl waith Gwennan a sut drwy’r Celfyddydau gallwn roi cyfle i newid o fewn cymunedau.
Yn ogystal ag aelodau llawn y Bwrdd, byddwn ni’n galw ar arbenigedd unigolion penodol i fynychu cyfarfodydd fel cynghorwyr arbennig ar amrywiaeth o bynciau sy’n cynnwys chwarae, treftadaeth ac addysg. Mae cynghorwyr sefydlog i’r Bwrdd hefyd wedi’u penodi; Ian Bancroft (Prif Weithredwr CBSW), Amanda Davies (Arweinydd Canol y Ddinas, Y Celfyddydau a Digwyddiadau CBSW), y Cynghorydd Hugh Jones (Aelod Arweiniol dros yr Amgylcheddau sy’n gyfrifol am Tŷ Pawb a’r Celfyddydau) a Liam Evans-Ford (Cyfarwyddwr Gweithredol, Theatr Clwyd).
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Dros Dro a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Moneypenny, Joanna Swash: “Mae bod yn Ddinas Diwylliant yn ymwneud â phobl. P’un a yw’r sgwrs yn ymwneud â busnes neu gymuned, mae mor bwysig ein bod yn ymgysylltu â chymaint o aelodau’r ardal leol â phosib a chael eu syniadau a’u barn ar sut y dylai blwyddyn Wrecsam fel gwesteiwyr edrych.
Yn ganolog iddo, bydd ein cais yn ymwneud â sicrhau y bydd diwylliant yn gatalydd ar gyfer newid – gan adfywio mannau cyhoeddus, ardaloedd siopa, yr isadeiledd a llawer mwy. Mae gan Wrecsam swm enfawr i’w gynnig a gweiddi amdano. Cenhadaeth y wobr yw dathlu ein diwylliant amrywiol i ‘lefelu i fyny’ ardaloedd y DU, gan ddod â chynhyrchiant a chyfleoedd cynyddol yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Rwy’n edrych ymlaen at wrando ar yr holl leisiau a’r adborth, a chydweithio i arddangos sut y gall pob un ohonom sydd eisoes mor falch o Wrecsam gydweithio i gyflawni potensial llawn ein hardal.”
Bydd cyfarfod cyntaf y Bwrdd yn cael ei gynnal ganol mis Ebrill ac rydym yn gyffrous i ddechrau ar ein cynlluniau yn ystod moment gyffrous iawn i Fwrdeistref Sirol Wrecsam.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD