Mae byw gyda’r cyfyngiadau ar symud wedi deffro ochr greadigol llawer ohonom ni, a tydi Swyddog Prosiect Isadeiledd Gwyrdd Wrecsam ddim yn eithriad. Mae hi wedi manteisio ar y sefyllfa anodd yma ac mae hi wedi mentro ar-lein gyda gweithgareddau gwych i blant ac oedolion, ac mae nhw’n addysgiadol iawn hefyd 🙂
Mae hi’n darlledu’n fyw ar Facebook bob dydd o’i chartref, ac mae 13,000 o bobl yn gwylio ei gweithgareddau bob mis. Mae hynny’n gyflawniad aruthrol gan mai dim ond ers ychydig wythnosau mae hi wrthi.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Fe allwch ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich gardd, yn cynnwys ystlumod a gwyfynod, neu fe allwch fod yn greadigol a gwneud masg wyneb gwyrdd gyda phethau rydych wedi’u darganfod yn eich gardd eich hun.
Ewch i Dudalen Prosiect Isadeiledd Gwyrdd
Os hoffech chi daro golwg ar beth sy’n digwydd a beth y gallwch chi ei wneud i ddifyrru eich plant a’u hannog i gymryd rhan yn ein hamgylchedd, ewch i’w thudalen ar Facebook.
Bywiogi eich Tir: Croesawir enwebiadau ar gyfer Parc Caia a Phlas Madoc!
A oes angen gweddnewidiad ar eich cymdogaeth? A oes yna fan gwyrdd gerllaw rydych chi’n teimlo sy’n cael ei esgeuluso ac yn haeddu cael ei weddnewid?
Mae Cyngor Wrecsam, Cadwch Gymru’n Daclus ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru am y 2 flynedd nesaf i hyrwyddo gwelliannau amgylcheddol yn Wrecsam ar gyfer pobl a natur, ac fe hoffem i chi ddweud wrthym ni ym mhle yr hoffech chi weld y gwelliannau yma.
Rydym ni’n awyddus i ddechrau cynllunio ar gyfer yr hydref/gaeaf, felly anfonwch eich enwebiadau atom ni.
Efallai mai tir ysgol neu lain o wair gyferbyn â’ch tŷ ydyw, fe hoffem glywed eich holl syniadau! Beth bynnag yw ei faint, fe hoffem i chi enwebu ardal ym Mharc Caia a Plas Madoc a fyddai’n elwa o gael fflach o liw blodau gwyllt, llwyni sy’n llawn neithdar neu hyd yn oed perllan ffrwythau.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Swyddog Prosiect Isadeiledd Gwyrdd yn rhoi pob math o gyfle i ni ymwneud â’n hamgylchedd o’n cartrefi a’n gerddi ein hunain. Os ydych chi’n byw ym Mharc Caia neu Blas Madoc, anfonwch eich enwebiadau ar gyfer prosiect Bywiogi Eich Tir er mwyn i fannau gwyrdd yn yr ardaloedd yma gael eu bywiogi i wella bioamrywiaeth yn yr ardaloedd yma.”
Anfonwch eich enwebiadau ac unrhyw gais i gael rhagor o wybodaeth at y Swyddog Prosiect, Jacinta Challinor: jacinta.challinor@wrexham.gov.uk.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19