Mae Maer Wrecsam yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd
Dydd Mawrth, Mai 23, fe fydd y Cynghorydd Brian Cameron yn trosglwyddo’r awenau fel Maer Wrecsam – gan ddod â blwyddyn gyffrous llawn digwyddiadau yn y swydd i ben.
Mae’r Cynghorydd Cameron wedi bod yn dyst i rai o’r digwyddiadau mwyaf mewn cof yn ystod ei gyfnod fel Maer – ar raddfa leol a chenedlaethol – gan gynnwys statws dinas, marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, ymweliad y Brenin Charles III a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn ennill dyrchafiad.
Dywedodd: “Roedd y rhain yn adegau enfawr ac mae wedi bod yn anrhydedd i wasanaethu fel maer yn ystod cyfnodau mor bwysig a llawn digwyddiadau.
“Roedd marwolaeth y Diweddar Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II yn amser trist, ac roedd y modd y daeth Wrecsam ynghyd i dangos parch yn hynod wefreiddiol.
“Roedd Proclamasiwn y Brenin Charles III – a’i ymweliad yn dilyn hynny i Wrecsam i ddathlu’r statws dinas – hefyd yn foment allweddol i mi ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth.”
Yn ogystal â’i wraig Kerry fel Maeres mae wedi mynychu nifer fawr o ymrwymiadau dinesig dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cynrychioli’r fwrdeistref sirol mewn nifer o ddigwyddiadau pwysig.
Cefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes
Mae’r Cynghorydd Cameron wedi bod yn gefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes ac – fel miloedd o bobl eraill yn y DU (a Gogledd America!) – roedd wrth ei fodd pan enillodd timau’r dynion a’r merched ddyrchafiad y tymor hwn.
“Mae yna sawl moment wych wedi bod ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ddod yn berchnogion ar y clwb, ond pan wnaethom ni gael dyrchafiad i Adran Dau a Chynghrair Adran Cymru roedd hynny yn hollol anhygoel.
“Mae llwyddiant ar y cae wedi golygu cymaint i’n cymunedau, ac roeddwn yn teimlo’n falch iawn o’n pêl-droedwyr fel cefnogwr ac fel Maer Wrecsam.”
Cyfarfod pobl o bob oed a chefndir
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth, mynychu’r Arddwest Frenhinol a chefnogi cynnig Dinas Diwylliant Wrecsam…
…yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau fel Diwrnod y Lluoedd Arfog a’r gorymdeithiau gan y Cymry Brenhinol a Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.
Ond yn ogystal â’r achlysuron mawr a oedd yn cipio’r penawdau, roedd yna nifer o ddigwyddiadau ac ymrwymiadau llai a greodd argraff.
Dywedodd y Cynghorydd Cameron: “Roedd y Faeres a minnau wrth ein bodd yn cyfarfod cynifer o bobl o bob grŵp oedran a chefndir, gan ddysgu am eu gwaith, eu doniau a’u diddordebau.
“Fe hoffwn i ddweud diolch wrth yr holl elusennau lleol, grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau ac unigolion eraill a wahoddodd fi a Kerry i rannu eu llwyddiannau.
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych, ac alla i ddim mynegi profiad mor anhygoel fu gwasanaethu fel Maer Wrecsam.
“Diolch i bawb am eich cefnogaeth, a hoffwn ddymuno’n dda i fy olynydd y Cynghorydd Andy Williams a’i wraig Beverly ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – rwy’n gwybod y byddant yn gwneud gwaith gwych.”
Bydd y Cynghorydd Andy Williams yn ymgymryd â rôl Maer Wrecsam yn swyddogol yng nghyfarfod swyddogol y cyngor i urddo’r Maer ddydd Mawrth Mai 23.