Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol 2021 yn cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Tachwedd, a’r nod yw tynnu sylw at y rôl bwysig y mae Therapyddion Galwedigaethol yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â thegwch iechyd.
Mae ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Wrecsam yn gweithio gyda phawb o bob oed, o blant i oedolion. Mae’r gwasanaeth yn darparu asesiadau ar draws amrywiaeth o wahanol feysydd y gallai dinasyddion fod yn cael trafferthion â nhw, gan gynnwys:
• Mynd i mewn ac allan o’ch cartref
• Trafferth mynd ar ac oddi ar ddodrefn
• Pryderon am gael codwm a methu galw am gymorth, neu am yr unigolion hynny sy’n crwydro ac yn drysu neu sy’n dioddef o epilepsi ac angen cymorth
• Trafferthion gyda thasgau dydd i ddydd fel gwisgo amdanoch neu baratoi pryd bwyd
• Trafferthion ymdopi yn eich cartref
• Unigolion sy’n methu sefyll na chymryd pwysau yn ddibynadwy
• Darparu addasiadau i ddinasyddion sydd ag ymddygiadau heriol
#ThGDrosDegwch
Mae Coleg y Therapyddion Galwedigaethol wedi lansio ei ymgyrch tegwch iechyd newydd, sef #ThGDrosDegwch, ac rydyn ni’n falch o gael cymryd rhan drwy rannu straeon ein Therapyddion Galwedigaethol (ThG) yn Wrecsam.
Dyma rai enghreifftiau o brofiadau ThG yn Wrecsam.
Enghraifft 1
Beth oedd yr Her?
“Roeddwn i’n gweithio’n ddiweddar gyda gŵr a oedd yn cael trawiadau cysylltiedig â dementia ac a oedd yn defnyddio lifft grisiau ei wraig. Roedd gwraig y gŵr yn cael triniaeth ganser liniarol, ac er bod ganddyn nhw becyn cymorth, roedd dwy ferch y cwpl yn helpu gyda’r rhan fwyaf o weithgareddau bywyd beunyddiol eu rhieni. Roedd y merched yn wynebu dirywiad cyflym yn iechyd y ddau riant ynghyd â phroblemau iechyd personol yn eu teuluoedd eu hunain, ac roedd y sefyllfa’n teimlo fel bod ar gyrion tristwch llethol.
“Fe es i weld y teulu sawl gwaith a gwylio’r gŵr yn gwneud ei dasgau dyddiol, gan gynnwys defnyddio’r lifft grisiau, ac fe ddatblygais i berthynas dda â’r cwpl a’u merched. Dangosodd y gŵr sgiliau cynllunio a dilyniannu cymwys ac roeddwn i’n teimlo’n hyderus ei fod mewn rheolaeth wybyddol dda o’r lifft grisiau, ond oherwydd ei drawiadau difrifol, roedd y lifft grisiau yn dal i fod yn broblem.
“Roedd y merched yn teimlo’n gryf y dylen nhw barhau i helpu eu tad i ymolchi yn yr ystafell ymolchi i fyny’r grisiau. Roedd yn golygu rhywbeth i’r merched ac i’w tad, ac roedden nhw’n teimlo y byddai rhoi’r gorau i wneud hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd eu tad a’r profiadau roedden nhw’n eu rhannu gydag ef, a oedd eisoes yn eithaf cyfyngedig gan ei fod ef a’i wraig yn gaeth i’r tŷ.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Beth wnaethoch chi ei newid?
“Fe weithiais i gyda’r merched i’w helpu i symud y cwpl i fyw ar y llawr gwaelod, gan eu hatgyfeirio am addasiadau i’r toiled llawr gwaelod i’w wneud yn fwy cyfforddus, clustog i’r bath i leihau’r risg o anaf i’r merched wrth iddyn nhw helpu i ymolchi eu tad, a pheiriant codi matres i’r cwpl gael gwylio’r teledu gyda’i gilydd yn y gwely.
“Ar gyfer y lifft grisiau, fe lenwais i asesiad risg safonol ac asesiad risg cytbwys er mwyn archwilio’r risg yn erbyn y manteision. Rhoddwyd yr asesiad risg i’r merched i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r risgiau ac yn eu derbyn, a’u bod yn cadw at yr amodau defnyddio.
“Yr amodau oedd bod y lifft grisiau’n cael ei ddefnyddio unwaith yr wythnos, dim ond i helpu ymolchi, gan nad oedd cawod ar y llawr gwaelod yn opsiwn, a bod harnais yn cael ei osod. Hefyd, byddai ailasesiad o’r defnydd o’r lifft grisiau yn cael ei gynnal bob chwarter gan yr un ThG i weld a oedd yna unrhyw ddirywiad pellach yng ngallu’r dinesydd a allai gyfaddawdu ei ddiogelwch, ac i fonitro amlder y trawiadau.”
Pa effaith a gawsoch chi?
“Roedd y dinesydd ei hun yn derbyn ac yn cydymffurfio’n dda â’r newidiadau yn ei amgylchedd, gan gadarnhau ymhellach y rhesymeg glinigol fod ganddo’r gallu i barhau â’i batrwm galwedigaethol arferol, er ei fod wedi’i addasu rywfaint. Roedd y teulu cyfan yn teimlo’u bod yn cael mwy o gefnogaeth a bod eu tad yn cael ei drin fel person bywiog.
“Rydw i’n teimlo bod hyn yn enghraifft dda o degwch oherwydd, heb ddadansoddiad manwl, gallai fod wedi ymddangos yn fwy priodol cael gwared ar y lifft grisiau’n gyfan gwbl, gan fynd â’r cyfle oddi ar y dinesydd a’i deulu i barhau gyda rhyw fath o normalrwydd. Yn hytrach, fe wnes i ymyrryd yn gymesur â’i anghenion a gwneud yn siŵr nad oedd yn cael ei ddiystyru fel rhywun heb fawr o botensial oherwydd ei ddiagnosis.”
Enghraifft 2
Beth oedd yr Her?
“Gŵr a gwraig yn dioddef o Covid-19 – mewn gwahanol ysbytai yng ngogledd Cymru, gyda’u perthynas agosaf yn byw yn Ne Affrica. Roedden nhw wedi symud i’w ‘cartref delfrydol’ yr un wythnos ag yr aethon nhw’n wael gyda Covid. Roedd y gŵr yn dioddef o ffurf ysgafn ar ddementia ac roedd braich dde’r wraig mewn plaster yn dilyn codwm – roedd yn cael trafferth gyda’r grisiau o’r cychwyn ac nid oedd toiled ar gael ar y llawr gwaelod.”
Beth wnaethoch chi ei newid?
“Cynhaliwyd ymweliad amgylcheddol. Cysylltodd Therapydd Galwedigaethol yr ICF â ThG y ddwy ysbyty mewn perthynas â’r amgylchedd a’r mab yn Ne Affrica. Trefnodd y mab i gael lifft grisiau ac ystafell wlyb yn breifat ac fe gynghorodd y ThG ef beth fyddai ei angen o ran addasiadau er mwyn i’r ddau riant allu ymdopi yn yr eiddo yn y tymor hir.”
Pa effaith a gawsoch chi?
“Cynhaliwyd ymweliad dilynol gan ThG yr ICF yr wythnos y rhyddhawyd y ddau o’r ysbyty, gan gynnig cyngor a gwybodaeth yn ogystal â mwy o gyfarpar a rheiliau. Mae’r ystafell wlyb bellach wedi’i chwblhau a bydd y lifft grisiau’n cael ei osod cyn bo hir. Mae’r ddau’n ymdopi’n dda yn eu ‘cartref delfrydol’ heb fod angen unrhyw ofalwyr ffurfiol.”
Waw! Dyna ddwy enghraifft o gyflawni canlyniadau cadarnhaol! Byddwn yn rhannu mwy o hanesion Therapyddion Galwedigaethol Wrecsam yn nes ymlaen yn yr wythnos, felly cadwch olwg amdanyn nhw.
Sut i gael gafael ar y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol
Gallwch gael gafael ar y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i oedolion drwy’r un pwynt mynediad i oedolion neu drwy’r Panel Amlasiantaeth i blant ag anableddau.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL